Maria Neira
Maria Neira | |
---|---|
Maria Neira | |
Ganwyd | 1962 La Felguera |
Dinasyddiaeth | Asturias |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr |
Cyflogwr |
Meddyg o Asturias, gwas sifil rhyngwladol a diplomydd yw María P. Neira (ganwyd 1962), sydd ers 2005 wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Adran Iechyd y Cyhoedd, yr Amgylchedd a Phenderfynyddion Cymdeithasol Iechyd (PHE) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).[1][2][3]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Astudiodd María P. Neira feddygaeth a llawfeddygaeth ym Mhrifysgol Oviedo yn Asturias.[1] Arbenigodd mewn endocrinoleg a chlefydau metabolaidd yn yr Université René Déscartes ym Mharis, Ffrainc.[1] Yna enillodd radd meistr mewn iechyd cyhoeddus a diploma mewn maeth dynol o'r Université Pierre et Marie Curie, hefyd ym Mharis.[1] Aeth Neira ymlaen i dderbyn y diploma rhyngwladol mewn Parodrwydd ar gyfer Argyfwng a Rheoli Argyfwng a roddwyd iddi gan Brifysgol Genefa yn y Swistir.[1]
Yn ei gyrfa gynnar, Neira oedd cydlynydd meddygol Médecins Sans Frontières (Meddygon Heb Ffiniau) a hynny mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Salvador a Hondwras yn ystod y gwrthdaro arfog a’r cyfnod o ansefydlogrwydd.[1][2] Hi oedd yr Is-weinidog Iechyd a Materion Defnyddwyr Sbaen o 2002 ac eilwaith o 2005 ymlaen.[1] Gwasanaethodd hefyd fel Llywydd Asiantaeth Diogelwch Bwyd a Maeth Sbaen.[1] Am bum mlynedd, hi oedd Cynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn y Weinyddiaeth Iechyd yn Maputo a Mosambic. Hi oedd Cynghorydd/Meddyg Iechyd Cyhoeddus y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP) yn Kigali, Rwanda.[1]
Ymunodd Maria Neira â Sefydliad Iechyd y Byd ym 1993 fel Cydlynydd y Tasglu Byd-eang ar Reoli Colera. Ym 1999, hi oedd Cyfarwyddwr yr Adran Rheoli, Atal a Dileu. Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Adran Iechyd y Cyhoedd a’r Amgylchedd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn 2005.
Yn Nhachwedd 2019 ymunodd Maria Neira â Bwrdd Ymgynghorol Lefel Uchel y Lancet Countdown: Tracio Cynnydd ar Iechyd a Hinsawdd.[4]
Anrhydeddau a gwobrau
[golygu | golygu cod]- Médaille de l'Ordre du Mérite National gan Lywodraeth Ffrainc
- Gwobr Strategaeth Maeth Genedlaethol Sbaen
- Gwobr Mujer Extraordinaria gan Frenhines Letizia o Sbaen,
- Aelod o Academi Feddygaeth Frenhinol Asturias
- “Merched ysbrydoledig yn gweithio tuag at warchod yr amgylchedd,” Dathliad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Ngenefa, gan UNEP (2016) [3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 "Dr. Maria Neira | UNFCCC". unfccc.int. Cyrchwyd 2019-05-06.
- ↑ 2.0 2.1 "Maria Neira". NewCities (yn Saesneg). 2018-03-19. Cyrchwyd 2019-05-06.
- ↑ 3.0 3.1 "WHO | Dr Maria Neira nominated an "inspirational" women". WHO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mehefin 2018. Cyrchwyd 2019-05-06.
- ↑ "Advisory Groups". Lancet Countdown (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-12-03.