Maria James (bardd)
Maria James | |
---|---|
Ganwyd | 11 Hydref 1793 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 11 Medi 1868 ![]() Rhinebeck ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, gweithiwr domestig ![]() |
Roedd Maria James (11 Hydref 1793 – 1 Medi 1868) yn fardd Americanaidd a anwyd yng Nghymru ac yn forwyn deuluol.
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Ganwyd Maria James yn 1793, yng Nghymru. Ymfudodd hi a'i theulu i Efrog Newydd pan oedd hi'n saith mlwydd oed lle gweithiodd ei thad yn y chwarelydd llachfaen. Dechreuodd weithio fel morwyn deulol yn 10 oed i deulu'r Parchedig Freeborn Garrettson. Bu farw yn Rhinebeck, Efrog Newydd yn 1868, yn 74 oed.[1]
Barddoniaeth[golygu | golygu cod]
Pan oedd hi'n 40 oed, ac yn parhau i weini, dysgodd Alonzo Potter, athro yn Union College, fod Maria James yn barddoni. Fe wnaeth baratoi casgliad o'i gweithiau ar gyfer eu cyhoeddi, ac fe'u hymddangosodd mewn cyfrol o dan yr enw Wales and Other Poems, yn 1839. Mae cyflwyniad hir Potter i'r casgliad yn sicrhau darllenwyr i Maria Hames yn "solaced a life of labour with intellectual occupations," a bod ei "achievements should be made known to repress the supercilious pride of the privileged and educated."[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ James Grant Wilson and John Fiske, eds., Appleton's Cyclopaedia of American Biography (1887): 399.
- ↑ Alonzo Potter, "Introduction" in Maria James, Wales and Other Poems (John S. Taylor 1839): 29–30.