Mari Yonehara

Oddi ar Wicipedia
Mari Yonehara
Ganwyd29 Ebrill 1950 Edit this on Wikidata
Tokyo Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mai 2006 Edit this on Wikidata
Kanagawa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol Tokyo
  • Prifysgol Astudiaethau Tramor Tokyo Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr, cyfieithydd, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
TadItaru Yonehara Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Bunkamura Les Deux Magots, Gwobr Oya Soichi, Gwobr Kōdansha am y traethawd gorau Edit this on Wikidata
Yn yr enw Japaneaidd hwn, Yonehara yw'r enw teuluol.

Awdur o Japan oedd Mari Yonehara (米原 万里 Yonehara Mari; 29 Ebrill 1950 - 25 Mai 2006) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, cyfieithydd (Rwsieg-Tsieineeg) ac awdur ysgrifau.

Fe'i ganed yn Tokyo ar 29 Ebrill 1950; bu farw yn Kanagawa o ganser ofaraidd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Tokyo a Phrifysgol Astudiaethau Tramor Tokyo.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Yonehara yn Tokyo. Roedd ei thad Itaru yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Japan ac roedd ganddo sedd yn nhŷ'r Cynrychiolwyr (Shūgiin) gan gynrychioli talaith Tottori; roedd ei thaid, Yonehara Shōzō, yn Llywydd Cynulliad Prefecture Tottori, ac yn aelod o Dŷ'r Cyfoedion.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Ym 1959, anfonwyd ei thad Itaru i Prague, (yn yr hen Tsiecoslofacia) fel golygydd cylchgrawn Plaid Gomiwnyddol rhyngwladol. Astudiodd Mari yr iaith Tsieceg i ddechrau, ond gosododd ei thad hi mewn ysgol ryngwladol a oedd yn cael ei rhedeg gan yr Undeb Sofietaidd, lle defnyddiwyd Rwsieg, fel bod ei blant yn gallu parhau â'r iaith yn Japan. Roedd cwricwlwm wedi'i lunio er mwyn cyflyru'r disgyblion mewn idioleg comiwnyddol, ac roedd cyd-ddisgyblion Yonehara yn cynnwys plant o dros 50 o wledydd.

Dychwelodd Yonehara i Japan ym 1964, ac ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd, mynychodd Brifysgol Astudiaethau Tramor Tokyo, gan ganolbwyntio ar Rwsieg. Ymunodd hefyd â Phlaid Gomiwnyddol Japan. Yna mynychodd raglen ôl-raddedig ym Mhrifysgol Tokyo, lle derbyniodd feistr mewn llenyddiaeth Rwsia a diwylliant Rwsia. Ar ôl iddi adael y brifysgol, bu’n dysgu Rwsieg yn y Gakuin Sofietaidd (Sefydliad Iaith Rwsiaidd Tokyo heddiw) ac “adran brifysgol” Bunka Gakuin, gan weithio fel cyfieithydd rhan-amser. Yn 1980, cyd-sefydlodd Gymdeithas Gyfieithu Rwsieg (ロ シ ア 語 通 訳 協会 Roshiago Tsūyaku Kyōkai) a daeth yn ysgrifennydd cyntaf y gymdeithas. Hi oedd llywydd y Gymdeithas rhwng 1995-1997 a 2003-2006, hyd at ei marwolaeth.

Gyda chwymp yr Undeb Sofietaidd, roedd galw mawr am ei gwasanaethau gan yr asiantaethau newyddion, teledu a hefyd gan lywodraeth Japan, a gofynnwyd iddi hefyd gynorthwyo yn ystod ymweliad Arlywydd Rwsia Boris Yeltsin â Japan yn 1990.

Roedd ei diddordebau'n cynnwys gêm-geiriau Japaneaidd (駄 洒落 dajare), jôcs ar thema rhyw (下 ネ タ shimoneta) ac roedd hi'n cadw nifer o gŵn a chathod. Ni phriododd hi erioed.[1][2]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddol Bunkamura Les Deux Magots (2003), Gwobr Oya Soichi (2002), Gwobr Kōdansha am y traethawd gorau (1997) .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Why don't you keep a Homo sapiens male? (ヒトのオスは飼わないの? Hito no Osu wa Kawa nai no?), Kōdansha, 2001. (ISBN 978-4-06-406209-9)
  2. I shall never keep a Homo sapiens male (終生ヒトのオスは飼わず Shūsei Hito no Osu wa Kawa zu), Bungei Shunjū, 2002. (ISBN 978-4-16-368820-6)