Marguerite de Valois

Oddi ar Wicipedia
Marguerite de Valois
GanwydMarguerite de Valois Edit this on Wikidata
14 Mai 1553 Edit this on Wikidata
Saint-Germain-en-Laye Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1615 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethperchennog salon, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddroyal consort of Navarre, Queen Consort of France Edit this on Wikidata
TadHarri II, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
MamCatrin de Medici Edit this on Wikidata
PriodHarri IV, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
PartnerJacques de Harlay Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Valois, House of Bourbon Edit this on Wikidata
llofnod
Margot yn ferch ifanc (tua 1600, llun gan Francois Clonet, Musée Condé, Chantilly)

Merch Harri II, brenin Ffrainc a Catrin de Medici, a gwraig Henri de Navarre (Harri IV, brenin Ffrainc) oedd Marguerite de Valois, a elwir hefyd yn "La Reine Margot (14 Mai 155327 Mawrth 1615). Daeth yn frenhines Ffrainc ac yn llenores.[1]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Roedd Margot yn fardd ac yn epistolydd. Ei phrif waith yw ei Mémoires (Atgofion) sy'n cynnwys disgrifiadau bywiog a chofiadwy o rai o'r digwyddiadau hanesyddol y bu'n dyst iddynt, fel Cyflafan Gŵyl Sant Bartholomew, ynghyd â brasluniau mewn arddull ffres a thrawiadol o gymeriadau'r llys, yn arbennig y merched. Ei hysgrifennydd personol oedd y bardd François Maynard (1582-1646). Roedd hi ar delerau da â'r llenor Brantôme (c.1540-1614) hefyd, awdur y Recueil des dames a'r Dames Gallantes.

Ffuglen[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd Alexandre Dumas (père) y nofel ramantaidd La Reine Margot yn seiledig ar brofiadau Margot adeg Cyflafan Gŵyl Sant Bartholomew yn 1846.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Charlotte Franken Haldane (1968). Queen of Hearts: Marguerite of Valois ('La Reine Margot') 1553-1615 (yn Saesneg). Constable. t. 3. ISBN 978-0-486-11894-9.
Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.