Margarette Golding
Margarette Golding | |
---|---|
Ganwyd | Tachwedd 1881 Blaenau Ffestiniog |
Bu farw | 1939 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nyrs, person busnes |
Roedd Margarette "Peggy" Owen, a aned yn Margarette Golding (Tachwedd 1881 - 1939) yn nyrs a pherson busnes a aned yng Nghymru, a sefydlodd y clwb Inner Wheel ym Manceinion. Tyfodd y clwb i fod yn sefydliad rhyngwladol sy'n agored i wragedd aelodau y Clwb Rotari .
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganwyd Golding ym Mlaenau Ffestiniog ym 1881 ac yna symudodd ei theulu i'r Gelli Gandryll . Hyfforddodd Golding fel nyrs.[1] Priododd Oliver Golding.[2]
Roedd menywod wedi cymryd rhan yn anffurfiol yng ngwaith y Clwb Rotari ond ataliwyd rhag dod yn aelodau eu hunain. Fe berswadiodd Margarette Golding 26 o wragedd eraill i'w cyfarfod mewn ystafell yn Herriott's Turkish Baths yn Deansgate ym Manceinion. Fe wnaethant gyfarfod ar 15 Tachwedd 1923 lle cytunwyd i greu sefydliad partner i'r Clwb Rotari a fyddai'n helpu'r clwb yn eu rôl ac yn darparu budd cymdeithasol i'w aelodau. Cynhaliwyd y cyfarfod swyddogol cyntaf ar 10 Ionawr 1924 yn eu man cyfarfod rheolaidd yn Lower Mosley Street, Manceinion.[3]
Etifeddiaeth
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd a enwodd Golding y sefydliad Inner Wheel ar gyfer gwragedd aelodau'r Clwb Rotari .[4] Roedd grwpiau tebyg eraill ym Mhrydain, ond Golding a'u trefnodd i fod yn sefydliad cenedlaethol o dan enw'r Inner Wheel.[5]
Mae gan Golding blac yn y Gelli Gandryll lle cafodd ei magu. Credid ar un adeg ei bod wedi cael ei geni yno.[1] Yn 2008, roedd gan Inner Wheel bron i 100,000 o aelodau mewn 102 o wledydd ac roedd yn un o'r sefydliadau menywod mwyaf gyda statws ymgynghorol yn y Cenhedloedd Unedig .[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Crump, Eryl (2017-04-08). "North Wales birthplace of international women's group founder revealed". northwales. Cyrchwyd 2019-04-21.
- ↑ Jay French (1977). Inner Wheel: A History. Association of Inner Wheel Clubs in Great Britain and Ireland. t. 24.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-20. Cyrchwyd 2019-04-22.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-06. Cyrchwyd 2019-04-22.
- ↑ Rotary International (April 1982). The Rotarian. Rotary International. tt. 22–25. ISSN 0035838X Parameter error in {{issn}}: Invalid ISSN..
- ↑ 2008 Proceedings: Ninety-Ninth Annual Convention of Rotary International. Rotary International. tt. 28–. GGKEY:2CN6BC8K16L.