Margaret Scott
Margaret Scott | |
---|---|
Ganwyd | 1888 Zwickau |
Bu farw | 1973 Ealing |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | swffragét |
Ffeminist a swffragét o'r Almaen ac yna o'r Deyrnas Unedig oedd Margaret Schenke (1888 – 1973). Fe'i harestiwyd wedi i ddau agent provocateur ei hannog i dorri ffenest. Cadwodd yr heddlu eu llygad arni am rai blynyddoedd. Ei henw bedydd oedd Gretel Schenke a defnyddiai sawl enw arall gan gynnwys Margaret Schenke a Margaret Scott.
Fe'i ganed yn Zwickau, Sacsoni, yn 1888 a bu farw yn Ealing (Bwrdeistref Llundain).
Ganwyd Gretel Schenke yn ganlyniad i ail briodas ei thad. Credir i ffrae deuluol fod wrth wraidd iddi ymfudo i wledydd Prydain, ac iddi ddefnyddio'r enw "Margot Schenke" tua 1908. Bu'n lletua yn Chelsea cyn iddi gyfarfod rhai o'r swffragetiaid lleol, a threulio'i hamser yn gwerthu papurau newydd y mudiad hawliau merched.
Ceir un cofnod ohoni yn Hyde Park Corner, pan ddaeth pobl ifanc i'w phryfocio, gan wneud sylwadau rhywiol a cheisio ei hatafaelu. Roedd yn ddiolchgar pan ddaeth dau blismyn i wasgaru'r bobl ifanc a'i rhoi ar fws i fynd adref yn ddiogel.[1]
Gwrthdystiad a charchar
[golygu | golygu cod]Nid oedd yr awdurdodau mor gefnogol pan gwrthdystiodd Schenke yn erbyn arestio Emmeline Pankhurst ym 1913. Siaradodd â dau brotestiwr arall ac awgrymodd y dylid taflu carreg at ffenestr y Swyddfa Gartref. Trefnodd y ddau ddieithryn iddi wneud galwad ffôn i esbonio na fyddai hi gartref o bosibl. Daeth i'r amlwg bod y ddau ddieithr yn ddau heddwas yn eu dillad eu hunain, a oedd yn procio drwg er mwyn ei harestio. Roedd ditectif gerllaw, a oedd yn barod i'w harestio.
Roedd Schenke yn ofni y gallai gael ei halltudio felly rhoddodd enw ffug, sef Margaret Scott ac o dan yr enw hwn cafodd ei dedfrydu i fis o garchar yng Ngharchar Holloway. Mewn tro anarferol cafodd dynnu ei llun, yn gyfrinachol, a dosbarthwyd y llun hwnnw, a lluniau o ferched eraill, i'r heddlu ac orielau celf i'w rhybuddio o swffragetiaid milwriaethus. Tynnwyd y lluniau o gar cuddiedig yn ystod ymarfer carcharorion gan ddefnyddio lens bwerus 11 modfedd, dyfais newydd sbon.
Priodi
[golygu | golygu cod]Priododd Richard Dixon yng Ngorffennaf 1914 a pharhaodd i gefnodi'r swfragetiaid hyd at ddechrau'r Rhyfel, pan gafwyd cadoediad rhwng y Swffragetiaid a'r awdurdodau.
Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Strong Willed & Courageous … Margaret Schencke – A Woman of Fortitude". Women's History Network (yn Saesneg). 2015-02-08. Cyrchwyd 2018-05-05.