Marciau Battenburg
Gwedd
Patrwm o farciau bwrdd gwyddbwyll o welededd uchel yw marciau Battenburg sy'n ymddangos yn bennaf ar gerbydau'r gwasanaethau brys. Daw'r enw o debygrwydd y marciau i deisen Battenberg. Defnyddir y marciau yn y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Hong Cong, Seland Newydd, Sweden, a'r Swistir.
Y Deyrnas Unedig
[golygu | golygu cod]Dyma liwiau'r marciau Battenburg a ddefnyddir gan wasanaethau brys y Deyrnas Unedig:
Marciau Battenburg yn y Deyrnas Unedig | ||
Heddlu | Melyn / Glas | |
Ambiwlansys a meddygon | Melyn / Gwyrdd | |
Tân ac achub | Melyn / Coch | |
Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol | Melyn / Oren | |
Highways Agency (Lloegr) a VOSA | Melyn / Du | |
Network Rail | Glas / Oren | |
Achub mynydd | Gwyn / Oren | |
Gwylwyr y glannau | Melyn / Glas nefi |