Maodez

Oddi ar Wicipedia
Maodez

Un o seintiau Llydaw oedd Maodez (Ffrangeg: Saint Maudez) (5ed neu 6g). Mae ei ddydd gŵyl ar 18 Tachwedd.

Yn draddodiadol, roedd yn wreiddiol o Iwerddon, ac yn fab i'r brenin Ercleus. Symudodd i Lydaw, a threuliodd amser gyda Samson a Tudwal cyn sefydlu ei fynachlog ei hun yn Lanmodez. Dywedir iddo sefydlu mynachlog ar Enez Vaodez, a enwyd ar ei ôl. Bu ganddo ddau ddisgybl, Budoc a Tudy. Enwyd Saint-Mawes yng Nghernyw ar ei ôl hefyd.