Mansi

Oddi ar Wicipedia
Teulu Mansi (1901).

Pobl Wgrig nomadaidd sydd yn frodorol i ranbarth Yugra, rhwng Afon Petsiora a Mynyddoedd yr Wral yng ngorllewin Siberia, yw'r Mansi (neu yn hynafaidd Fogwliaid).[1] Maent yn perthyn yn agos i'r Khanty, a gelwir y ddwy grŵp ethno-ieithyddol hon gyda'i gilydd yn bobloedd Ob-Wgrig.

Credir i'r bobloedd Ob-Wgrig ddisgyn o gysylltiad y boblogaeth gynhenid leol â nomadiaid Wgrig a ymfudodd i'r ardal o'r de rhywbryd rhwng y blynyddoedd 500 a 1000. Dylanwadwyd arnynt yn y cyfnod boreol gan y bobloedd Iranaidd a Thyrcig, ac yn ddiweddarach gan grwpiau cyfagos gorllewin Siberia: y Tatariaid Siberaidd, y Nenets, y Rwsiaid, a'r Komi. Mentrodd y Rwsiaid i Fynyddoedd yr Wral am y tro cyntaf yn yr 11g, masnachwyr o Novgorod yn bennaf. Wedi hynny, codwyd treth lem ar grwyn y Mansi, a cheisiodd nifer ohonynt osgoi cysylltiadau â'r Rwsiaid a symud i mewn i'r coedwigoedd.[2] Dros amser, symudodd gwlad y Mansi o ganolbarth yr Wral i'r gogledd-ddwyrain, i'w hardal bresennol ar lannau Afon Konda. Brwydrodd y Mansi yn erbyn ehangiad Uchel Ddugiaeth Mysgofi, ac ym 1455–67 arweiniodd y Tywysog Asyka, cateyrn y Mansi ger Afon Pelym, ymgyrch yn erbyn lluoedd Mysgofi, Perm Fawr, a Christnogion Vym. Er gwaethaf eu gwrthgyrchoedd brwdfrydig, aflwyddiannus a fu gwrthsafiad y Mansi, a dinistriwyd yr olaf o'u tywysogaethau, Konda, ym 1591. Arwyddwyd cytundebau rhwng y ddwy ochr wrth i'r Mansi ildio, ond cawsant eu hanwybyddu gan y Rwsiaid ymhen fawr o dro. Ymfudodd niferoedd mawr o wladychwyr i diroedd amaethyddol y Mansi, a bu'n rhaid iddynt droi at hela a physgota am eu bwyd.[3]

Pan crewyd Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi ym 1930, ar ffurf Ocrwg Cenedlaethol Ostiac-Fogwl yng Ngweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Rwsia, yr Undeb Sofietaidd, roedd y bobloedd Mansi a Khanty (Ostiaciaid) yn cyfri am 19 % o boblogaeth yr ardal. Caethgludwyd nifer fawr o alltudion i Siberia yn y cyfnod Sofietaidd, ac yn sgil darganfyddiad olew yn yr Arctig yn y 1950au cafodd nifer o'r brodorion eu troi allan o'r tir wrth i lafurwyr symud yno i weithio yn y diwydiant olew. Effeithiwyd ar yr amgylchedd gan danau nwy ac arllwysiadau olew, ac erbyn 1989 roedd y Mansi a'r Khanty yn cyfri am 1.4 % o boblogaeth yr ocrwg. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, sefydlwyd y garfan Spasenie Ugry (Iachawdwriaeth Yugra) i ymgyrchu dros hawliau brodorol ac i fynegi pryderon ecolegol.[3]

Ieithoedd Ob-Wgrig yw'r ieithoedd Mansi a Khanty, ac ynghyd ag Hwngareg dyma gangen Wgrig y teulu Ffinno-Wgrig. Rhennir siaradwyr Mansi yn draddodiadol yn bedair grŵp daearyddol—gogledd, de, gorllewin, dwyrain—a bellach mae ieithyddion yn cydnabod rhyw 18 o dafodieithoedd sydd yn cyfateb i'w patrymau trigiannol ar hyd yr afonydd.[2] Yn y 1990au, siaradwyd yr iaith frodorol gan 37 % o'r Mansi, y mwyafrif helaeth ohonynt o'r hen do.[3]

Gorfodwyd nifer o'r Mansi i droi'n Gristnogion yng nghyfnod y tsaraeth, ac erbyn 1750 roedd y mwyafrif ohonynt yn cymryd arnynt ffydd yr Eglwys Uniongred Roegaidd tra'n arfer animistiaeth yn gudd.[3] Un o brif draddodiadau'r Mansi yw "gŵyl yr arth", sef seremoni angladdol a gynhelir dros sawl nos mewn tai helwyr wedi iddynt ladd arth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, "Vogul".
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) E. G. Fedorova a David C. Koester, "Mansi" yn Encyclopedia of World Cultures. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Ionawr 2021.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Rein Taagepera, "Mansi" yn Encyclopedia of Russian History. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Ionawr 2021.