Majorian
Majorian | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
420 ![]() Gâl ![]() |
Bu farw |
7 Awst 0461 ![]() Achos: Dysentri ![]() Tortona ![]() |
Dinasyddiaeth |
Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth |
gwleidydd ![]() |
Swydd |
ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig ![]() |
Llinach |
last emperors ![]() |

Roedd Iulius Valerius Maiorianus (Tachwedd 420 – 7 Awst 461), a adwaenir hefyd fel Majorian, yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin (457 - 461).
Roedd Majorian wedi gwneud enw iddo'i hun fel cadfridog, gan ennill buddugoliaethau dros y Ffranciaid a'r Alemanni. Chwe mis wedi i'r ymerawdwr Avitus gael ei orfodi i ymddiswysddo, cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan y magister militum Ricimer. Nid oedd yr ymerawdwr yn y dwyrain, Leo I, yn barod i dderbyn hyn.
Wedi gorchfygu ymosodiad ar Campania gan y Fandaliaid yn 458, dechreuodd baratoi byddin i ymosod ar Ogledd Affrica. Llwyddodd i orchfygu Theodoric II, brenin y Fisigothiaid yn ne Gâl, yna ar ddechrau 461 croesodd y Pyrenees gyda'r bwriad o ymuno a'i lynges yn Cartagena. Llwyddodd Geiseric, brenin y Fandaliaid, i ddinistrio llawer o'r llynges yma mewn ymosodiad sydyn, a bu raid i Majorian roi'r gorau i'w fwriad.
Bu gwrthryfel gan ei filwyr yn Lombardi ar 2 Awst, 461, efallai wedi eu perswadio gan Ricimer, a gorfodwyd iddo ymddiswyddo. Bu farw bum diwrnod yn ddiweddarach.
Rhagflaenydd: Avitus |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Libius Severus |