Neidio i'r cynnwys

Maes Tegid

Oddi ar Wicipedia
Maes Tegid
Mathlleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliady Bala Edit this on Wikidata
Siry Bala Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9122°N 3.6014°W Edit this on Wikidata
Map

Cae chwarae cymunedol a stadiwm pêl-droed yn y Bala ydy Maes Tegid. Fe'i ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gemau pêl-droed ac yn gae gartref i Glwb Pêl-droed y Bala.

Mae'r stadiwm yn dal 3,000 o bobl, gyda 504 sedd, ac wedi ei defnyddio gan y clwb ers 1950. Mae seddi y stadiwm yn dod yn ail-law o Chesterfield a Coventry City yn Lloegr.

Ym Medi 2016, gosodwyd arwyneb glaswellt ffug ar ôl cais llwyddiannus gyda Cymdeithas Bêl-droed Cymru.[1]

Presenoldeb uchaf y stadiwm yw 938 o bobl, mewn gêm yn erbyn Dinas Bangor ar 14 Awst 2009.[2]

Mae nifer o wefannau chwaraeon wedi enwi'r maes fel un o'r llefydd harddaf i wylio pêl-droed.[3][4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "First Home Game!". CPD Tref y Bala. 16 Medi 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-15. Cyrchwyd 2021-07-16.
  2. "MAES TEGID VISITORS GUIDE". CPD Tref y Bala. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-10. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2021.
  3. Bala Town Football Club - Clwb Peldroed Y Bala Town Bala Town yn y Peiriant Wayback (archifwyd 1 Mawrth 2010)
  4. Welsh Premier Football - Club Guides Archifwyd 3 Ionawr 2010 yn y Peiriant Wayback