Madog Min

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cymeriad ffug-hanesyddol yw Madog Min y dywedir iddo fod yn Esgob Bangor ac iddo fradychu Llywelyn ap Seisyll (m. 1023) ac wedyn ei fab Gruffudd ap Llywelyn (tua 1000–1063), Brenin de facto Cymru, yn ôl Iolo Morganwg.

Cyhoeddwyd hanesyn am Fadog Min (Madawc Min) yn yr Iolo Manuscripts, a gyhoeddwyd gan Taliesin Williams, mab Iolo Morganwg, yn 1848. Yn ôl y testun hwnnw, ar ôl bradychu Llywelyn ap Seisyll, gwnaeth Madog yr un peth i'w fab Gruffudd a hynny am "dri chan pen gwartheg" a addawyd iddo gan "Harallt Brenin y Saeson." Ar ôl i Fadog lwyddo yn ei fwriad ysgeler, rhoddodd y brenin y gwartheg iddo a cheisiodd Madog ffoi gyda'r gwartheg mewn llong dros y môr i Ddulyn yn Iwerddon. Ond suddodd y llong cyn cyrraedd Dulyn. Dihangodd pawb ar ei bwrdd heblaw Madog, a foddwyd. "Dial Duw arno" oedd hynny.[1]

Gwyddom heddiw mai ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg yw'r hanes. Dyfan oedd Esgob Bangor yng nghyfnod teyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn a cheir dim cofnod o esgob o'r enw Madog. Yn 1063 ymosodwyd ar Ruffudd gan fyddin dan arweiniad Harold Godwinson ("Harallt" Iolo). Erlidwyd ef o fan i fan, ac yn rhywle yn Eryri, ar 5 Awst 1063, fe'i lladdwyd. Dywed Brut y Tywysogion mai un o'i wŷr ei hun a'i lladdodd. Dehongliad J.E. Lloyd o'r cofnod yw mai drwy frad y daeth diwedd Gruffudd ap Llywelyn; yn ôl Cronicl Ulster, Cynan, tad Gruffudd ap Cynan a mab Iago ab Idwal (a laddwyd gan Ruffudd yn 1039) oedd y dyn a gyflawnodd y weithred.[2]

Ond yn ail hanner y 19g doedd neb wedi profi mai ffugiad oedd yr hanesyn am Fadog Min, fel llawer o bethau eraill gan Iolo Morganwg, ac mewn canlyniad cyfeirir at frad Madog Min yn y rhan fwyaf o'r llyfrau am hanes Cymru a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwnnw ac hefyd mewn bywgraffyddion parchus fel Enwogion Cymru (1872) gan Robert Williams.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Taliesin Williams (gol.), Iolo Manuscripts (ail argraffiad, Lerpwl 1888), tud. 198.
  2. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), tud. 99.