Madfall gyffredin

Oddi ar Wicipedia
Madfall gyffredin
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Urdd: Squamata
Teulu: Lacertidae
Genws: Zootoca
Wagler, 1830
Rhywogaeth: Z. vivipara
Enw deuenwol
Zootoca vivipara
(Lichtenstein, 1823)
Cyfystyron

Lacerta vivipara Lichtenstein, 1823

Madfall fach a geir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd Asia yw'r fadfall gyffredin neu yn syml madfall (Zootoca vivipara, gynt Lacerta vivipara). Mae'r corff a phen hyd at 6.5 cm o hyd ac mae'r gynffon hyd at 13 cm.[1] Fel rheol, mae'r gwryw'n frown gyda smotiau du a gwyn a bol oren. Mae gan y fenyw ystlysau tywyll a llinell dywyll ar hyd yr asgwrn cefn.[2]

Mae'n byw mewn amrywiaeth o gynefinoedd megis rhostir, glaswelltir, twyni a choetir agored.[1] Mae'n bwydo ar bryfed a phryfed cop yn bennaf.[2] Mae'n rhoi genedigaeth i epil byw fel rheol ond mae rhai poblogaethau deheuol yn dodwy wyau.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Arnold, Nicholas & Denys Ovendon (2004) A Field Guide to the Reptiles and Amphibians of Britain and Europe, Collins, Llundain.
  2. 2.0 2.1 Inns, Howard (2009) Britain's Reptiles and Amphibians, Wildguides, Hampshire.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ymlusgiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.