Madagascar (ffilm 2005)
| Madagascar | |
|---|---|
Poster swyddogol y ffilm | |
| Cyfarwyddwyd gan |
|
| Cynhyrchwyd gan | Mireille Soria |
| Awdur (on) |
|
| Stori |
|
| Yn serennu | |
| Cerddoriaeth gan | Hans Zimmer |
| Golygwyd gan |
|
| Stiwdio |
|
| Dosbarthwyd gan | DreamWorks Pictures |
| Rhyddhawyd gan |
|
| Hyd y ffilm (amser) | 86 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Cyfalaf | $75 miliwn[1] |
| Gwerthiant tocynnau | $532.7 miliwn |
Ffilm animeiddiedig a gynhyrchwyd gan DreamWorks Animation yw Madagascar. Rhyddhawyd y ffilm ar y 27 Mai 2005. Adrodda'r ffilm hanes pedwar o anifeiliaid Sŵ Central Park sydd wedi treulio'u bywyd yn ddigon hapus yn sŵ. Fodd bynnag, cânt eu danfon yn ôl yn annisgwyl i Affrica. Maent yn cael eu llongddryllio ar ynys Madagascar ar y ffordd. Clywir lleisiau'r actorion Ben Stiller, Jada Pinkett Smith, Chris Rock, a David Schwimmer yn y ffilm. Mae'r lleisiau eraill yn cynnwys Andy Richter, Sacha Baron Cohen. Rhyddhawyd Madagascar ar DVD ar 15 Tachwedd 2005, ynghyd a'r ffilm fer "The Madagascar Penguins in a Christmas Caper". Rhyddhawyd fersiwn Blu-ray ar 23 Medi 2008. Rhyddhawyd dilyniant i'r ffilm, Madagascar: Escape 2 Africa, ar 7 Tachwedd 2008. Bwriedir rhyddhau trydedd ffilm yn haf 2012.
Cyfeiriadau
- ↑ "Madagascar". The Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-18. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2012.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Madagascar ar wefan Internet Movie Database
