Jada Pinkett Smith
| Jada Pinkett Smith | |
|---|---|
|
| |
| Ganwyd |
18 Medi 1971 Baltimore |
| Man preswyl |
Malibu |
| Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth |
Actor, canwr-gyfansoddwr, Canwr, Cyfansoddwr, Cynhyrchydd ffilm, cyfansoddwr caneuon, Cyfarwyddwr ffilm, Ysgrifennwr, actor llais, Cerddor, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr |
| Adnabyddus am |
Enter the Matrix, Madagascar, Gotham, Collateral, The Matrix Revolutions, Ali, Hawthorne, Bad Moms |
| Arddull |
Cerddoriaeth roc |
| Mam |
Adrienne Pinkett |
| Priod |
Will Smith |
| Plant |
Jaden Smith, Willow Smith |
| Gwobr/au |
Gwobr y Dyniaethau, David Angell, Gwobr Delwedd NAACP am yr Actores Eithriadol mewn Cyfres Ddrama, Gwobr Delwedd NAACP amWaith Llenyddol Arbennig |
| Gwefan |
https://www.jadapinkettsmith.com/ |
Mae Jada Koren Pinkett Smith (ganwyd 18 Medi 1971) yn actores, dawnswraig, cantores, cyfansoddwraig, a menyw busnes. Dechreuodd ei gyrfa yn 1990, pan wnaeth ymddangosiad byr yn y rhaglen gomedi byrhoedlog True Colors. O 1991 hyd at 1993, serennodd fel Lena James yn y gyfres deledu A Different World, a gynhyrchwyd gan Bill Cosby. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf, Menace II Society, yn 1993, ac yna ymddangosodd gyda Eddie Murphy yn The Nutty Professor (1996). Ers hynny, mae hi wedi ymddangos mewn dros 20 o ffilmiau nodwedd, gan gynnwys Set It Off (1996), Scream 2 (1997), Ali (2001), The Matrix Reloaded a The Matrix Revolutions (2003), Madagascar (2005), Madagascar: Escape 2 Africa (2008), a Madagascar 3: Europe's Most Wanted (2012), ac, yn fwy diweddar, Girls Trip (2017).
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed Jada Koren Pinkett yn Baltimore, Maryland, gan ei galw'n Jada ar ôl hoff actores sebon ei mam: Jada Rowland.[1] Mae Pinkett Smith yn tarddu o deulu Affricanaidd-Americanaidd a Jamaicaidd.[2][3][4]
Lansiodd Jada ei gyrfa gerddorol yn 2002 pan helpodd hi greu'r band metal Wicked Wisdom. Hi sy'n canu ac yn ysgrifennu'r caneuon i'r band hwn. Bu iddi hefyd sefydlu cwmni cynhyrchu, yn ogystal ag ysgrifennu llyfr i blant, Girls Hold Up This World, a gyhoeddwyd yn 2004.
Personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae hi wedi bod yn briod i'r cerddor Will Smith ers 1997. Mae ganddynt ddau o blant, mab o'r enw Jaden a merch o'r enw Willow. Drwy eu priodas mae hi hefyd yn llysfam i fab Will o'i briodas gyntaf, Trey Smith.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Jada Pinkett-Smith Biography". TV Guide. OpenGate Capital. Cyrchwyd 2008-10-06.
- ↑ "USA WEEKEND Magazine". 159.54.226.237.
- ↑ On Her Own Terms – Baltimore Sun. Articles.baltimoresun.com (2004-08-07). Adalwyd 2013-12-30.
- ↑ Wollman Rusoff, Jane (2009-06-13). "Jada Pinkett Smith returns to the tube on TNT". Reading Eagle. New York Times Syndicate. http://www.readingeagle.com/article.aspx?id=142873. Adalwyd 2011-06-20.
|