Dolen Mach

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Machynlleth Loop)
Dolen Mach
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7086°N 3.845°W Edit this on Wikidata
Map

Cyfres o gymoedd yn ne Gwynedd sy’n rhan o ardal hyfforddi tactegol awyrennau yw Dolen Machynlleth neu Ddolen Mach[1] (Saesneg: Machynlleth Loop neu Mach Loop). Mae'n rhan o "Ardal Hedfan Isel 7", a defnyddir yr ardal yn rheolaidd ar gyfer hyfforddiant hedfan lefel isel. Mae llif cylchol sy'n rhedeg yn groes i'r cloc er mwyn i griwiau allu ymarfer hedfan gyda'r cyfuchliniau trwy'r cymoedd heb orfod poeni am ddod wyneb yn wyneb ag awyrennau sy'n dod o'r cyfeiriad arall.

Dyma un o'r ychydig leoedd yn unrhyw le yn y byd lle gall ffotograffwyr dynnu lluniau o awyrennau ymladd sy'n hedfan oddi tanynt. Daw llawer o selogion o bell gyda'r gobaith o weld yr awyrennau'n ymgymryd â'u symudiadau beiddgar. Fodd bynnag, mae anesmwythyd yn yr ardal ynglŷn â sŵn o'r awyrennau,[2] a diogelwch yr ymarferion.[3]

Mae'r maes parcio ar safle Llyn y Tri Grayenyn ym Mwlch Llyn Bach yn lleoliad poblogaidd ar gyfer gwylio'r awyrennau.


F-15E Strike Eagle o Awyrlu'r Unol Daleithiau yn Nolen Mach, 11 Medi 2012

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Mynd yn Igam Ogam ar hyd Ffordd yr Arfordir". Croeso Cymru.
  2. Gweler eitem 5e yn Cofnodion o gyfarfod 29 Awst 2018, Cyngor Cymuned Mawddwy.
  3. "Meirionnydd: 'Presenoldeb cynyddol' awyrennau’n hedfan yn isel", Golwg360, 26 Tachwedd 2015; adalwyd 29 Mai 2020

Dolen allanol[golygu | golygu cod]