Máirtín Ó Muilleoir

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Máirtín Ó Muilleoir
MLA
Belfast Lord Mayor Máirtín Ó Muilleoir welcoming participants of the 2013 Horasis Global India Business Meeting.jpg
Aelod o Cynulliad Gogledd Iwerddon
dros De Belffast
Deiliad
Cychwyn y swydd
22 Hydref 2014
Rhagflaenwyd gan Alex Maskey
Gweinidog dros Gyllid y Wlad
Mewn swydd
12 Mai 2016 – 26 Ionawr 2017
Rhagflaenwyd gan Mervyn Storey
Dilynwyd gan Gwag
58th Arglwydd Faer Belffast
Mewn swydd
2 Mehefin 2013 – 2 Mehefin 2014
Rhagflaenwyd gan Gavin Robinson
Dilynwyd gan Nichola Mallon
Cynghorydd ar Gyngor Dinas Belffast
Mewn swydd
2011–2014
Manylion personol
Ganed Martin Millar
(1959-01-01) 1 Ionawr 1959 (60 oed)
Belffast, Gogledd Iwerddon
Dinesydd Gwyddel
Plaid gwleidyddol Sinn Féin
Priod Helen O'Hare
Plant 4
Alma mater Prifysgol y Frenhines Belffast
Proffesiwn Cyhoeddwr, dyn busnes

Ganwyd Máirtín Ó Muilleoir MLA yn wreiddiol Martin Millar; 1959[1]) ac mae'n wleidydd Sinn Féin, awdur, cyhoeddwr a pherson busnes, a gwasanaethodd fel y 58ed Arglwydd Faer Belfast (2013-14).[2] Mae ganddo ddau frawd, un, Adrian Millar yn awdur, blogiwr a cholofnydd i'r Huffington Post.[3] Mae ei frawd arall Gerry Millar/Gearóid Ó Muilleoir yn newyddiadurwr a golygydd gyda'r  Belfast Telegraph.

Bywyd Cynnar ac Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Addysgwyd Ó Muilleoir gan  Frodyr Cristnogol Y Santes Fair (ysgol ramadeg Gatholig Rufeinig) ac yna ym Mhrifysgol Queen's, Belfast.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyrfa Busnes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1997, daeth Ó Muilleoir yn rhan-berchennog yr Andersonstown News  cyn prynu'r Irish Echo wedi ei leoli'n Efrog Newydd. Fel siaradwr Gwyddelig rhugl, mae ganddo ddiddordebau eraill mewn busnesau Gwyddelig ac Americannaidd. Gweithiodd fel cyfarwyddwr dros dro gyda Northern Ireland Water.[5]

Gyrfa Gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mentrodd Ó Muilleoir i fyd gwleidyddiaeth yn 1985, pan safodd fel ymgeisiwr  plaid Sinn Féin tros ardal Upper Falls (ardal etholaethol yng ngorllewin Belfast ac un o naw ardal etholaethol yn y ddinas rhwng 1985 a 2014) ac o drwch blewyn collodd allan ar gael ei ethol.[6]

Yn dilyn genedigaeth ei mherch, ymddiswyddodd Pip Glendinning o'r Alliance Party ei sedd ddwy flynnedd yn ddiweddarach yn dilyn etholaeth 1985, ennillodd Ó Muilleoir  yr is-etholiad ddilynnol ym mis Hydref 1987.  Yn ystod ei amser ar y cyngor, cychwynnodd nifer o gamau cyfreithiol dros yr hyn y honnai anffafriaeth tuag at yr Unoliaethwyr a reolodd y cyngor, a manylodd ar y profiadau hyn yn ei lyfr, The Dome of Delight.

Cafodd ei ail-ethol yn etholiadau lleol 1989 a 1993  gan ymddeol yn 1997 i ganolbwyntio ar ei fuddiannau busnes. Yn 1996 bu'n ymgeisydd aflwyddiannus yn etholiad Fforwm Gogledd Iwerddon  yng Ngogledd Down.[7]

Ail ymunnodd â gwleidyddiaeth yn 2011, pan gafodd ei ethol fel Cynghorydd Dinas Belfast tros  Balmoral, De Belfast, gan ennill sedd Jim Kirkpatrick, Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd, ac etholwyd ef yn Arglwydd Faer yn 2013, yn gwasanaethu tymor un-flwyddyn.[8]

Yn 2014, fe'i gyfetholwyd fel MLA (aelod o gynulliad deddfwriaethol Gogledd Iwerddon)  i'r  Cynulliad Gogledd Iwerddon.[9] Yn ystod etholiad gyffredinol y Ddeyrnas Unedig yn 2015, ymgeisiodd tros etholaeth De Belfast, ond fe'i drechwyd gan ddeiliad-ymgeisiwr Alasdair McDonnell[10] o blaid y Sosialwyr Democrataidd a Llafur. Ar y deuddegfed o Fai 2016, fe'i benodwyd  yn Weinidog Cyllid yn Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Profile, niassembly.gov.uk; accessed 10 February 2016.
  2. "Máirtín Ó Muilleoir is Belfast's new Lord Mayor". The News Letter. 3 June 2013. Cyrchwyd 21 June 2013.
  3. Adrian Millar/Máirtín Ó Muilleoir relation, thewildgeese.irish; accessed 5 June 2015.
  4. "Máirtín Ó Muilleoir - a republican for change". The Belfast Telegraph. 8 June 2013. Cyrchwyd 21 June 2013.
  5. "Mairtin O'Muilleoir to represent SF in south Belfast". BBC.co.uk. 6 December 2010. Cyrchwyd 21 June 2013.
  6. Belfast city council election results 1985-1989, ARK, accessed 21 June 2013
  7. 1996 Forum Elections: Candidates in North Down, ark.ac.uk; accessed March 5, 2017.
  8. Balmoral election results, 1993-2011, ARK.ac.uk; accessed 21 June 2013.
  9. Profile, belfasttelegraph.co.uk; accessed 17 May 2015.
  10. Belfast South result, BBC News, accessed 6 July 2016
  11. Ó Muilleoir is new North finance minister, The Irish Echo, 25 May 2016, accessed 22 January 2017

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Proffil, companieshouse.gov.du; cyrchwyd 9 Rhagfyr 2016.
  • Proffil, heraldscotland.com; cyrchwyd 25 Chwefror 2017.