Lydia Foote

Oddi ar Wicipedia
Lydia Foote
Ganwyd1843 Edit this on Wikidata
Bu farw1892 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores Seisnig oedd Lydia Foote, ganwyd Lydia Alice Legg (1843 - 30 Mai 1892). Chwaraeodd rolau blaenllaw o'r 1850au i'r 1880au, gan gynnwys perfformiadau yn Theatr y Lyceum, Theatr yr Olympic, Theatr Tywysog Cymru a Theatr yr Adelphi. Roedd hi'n adnabyddus am ei pherfformiadau mewn dramâu fel The Frozen Deep (1866) a Caste (1867).[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Foote yn Llundain yn ferch i Arthur Wellington Legg, adeiladwr coetsys, a Sarah Judith Legg (née Goward). Modryb ei mam oedd Mary Anne Keeley, actores nodedig.[2] Gan fod Foote yn dod o deulu actio sefydledig a llwyddiannus, mwynhaodd rywfaint mwy o barch nad oedd yn cael ei roi i actoresau yn gyffredinol yn ei dydd gan fod eu proffesiwn yn cael ei ystyried yn arwydd o anfoesoldeb rhywiol.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Foote rolau blaenllaw o'r 1850au i'r 1880au. Bu iddi ymddangos yn Llundain am y tro cyntaf yn Theatr Lyceum ym 1852 yn y rôl actor ar gyfer actor ifanc Edward yn A Chain of Events gan Charles Mathews a Slingsby Lawrence. Tua 1859, chwaraeodd Amanthis yn The Child of Nature gan Elizabeth Inchbald. Ym 1863-1866, ar ôl perfformiadau eraill yn Llundain, Manceinion a mannau eraill, bu’n cymryd rhan yn y Theatr yr Olympic, lle ymddangosodd gyntaf yn The Ticket-of-Leave Man fel May Edwards. Yn y rhan hwnnw, traddododd Foote gân a gyhoeddwyd fel The Song that Lydia Foote Sang. Ym 1864, creodd rôl Enid yn addasiad Tom Taylor o The Hidden Hand, ac yn y flwyddyn ganlynol creodd rôl arall, Miss Hargrave, yn Taylor's Settling Day. Bu hefyd yn chware rôl Maria yn Twelfth Night. Ym 1866, derbyniodd adolygiadau cynnes am chware rhan Clara yn The Frozen Deep gan Wilkie Collins.

Cafodd llwyddiant mawr yn ei pherfformiad o'r cymeriad Esther yn Caste gan TW Robertson, yn Theatr Tywysog Cymru ym 1867. Parhaodd i berfformio'n rheolaidd yn theatrau'r West End, gan gynnwys yn rolau Lady Selina yn How She Loves Him gan Dion Boucicault ac fel Amanda yn nrama TW Robertson's Play (1868). Chwaraeodd rhannau dwy efail Yn Blow for Blow gan H. J. Byron, a chwaraeodd rôl y teitl yn ei ddrama Minnie. Cymerodd hi hefyd y brif ran yn Progress Robertson. Yn ddiweddarach perfformiodd lawer o rolau yn Theatr Adelphi, gan gynnwys Smike mewn fersiwn lwyfan o Nicholas Nickleby Charles Dickens (1875). Creodd rolau Anna yn The Danischeffs, a addaswyd gan yr Arglwydd Newry (1877) a Midge yn Rescued gan Boucicault (1879), ymhlith eraill.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Foote yn Broadstairs o ganser ym 1892 [4] a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent Kensal Green, Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Foote, Lydia (real name Lydia Alice Legg) (1843-1892), actress. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 2 Gorffennaf 2020
  2. The Library of Nineteenth-Century Photography - Lydia Foote Adalwyd 2 Gorffennaf 2020
  3. Goodman (gol), Lizbeth (2002). The Routledge Reader in Gender and Performance. tud. 73. ISBN 1134707606
  4. "THEATRICAL - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1892-06-18. Cyrchwyd 2020-07-03.