Lydia Chukovskaya

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lydia Chukovskaya
Lydia Chukovskaya.jpg
Ffugenw Алексей Углов Edit this on Wikidata
Ganwyd Ли́дия Никола́евна Корнейчуко́ва (ru) Edit this on Wikidata
11 Mawrth 1907 (in Julian calendarEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Chwefror 1996 Edit this on Wikidata (88 oed)
Moscfa Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Prifysgol Saint Petersburg Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, Bardd, awdur plant, rhyddieithwr, golygydd cyfrannog, bywgraffydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Q3963932 Edit this on Wikidata
Tad Korney Chukovsky Edit this on Wikidata
Mam Q15959113 Edit this on Wikidata
Priod César Volpé, Matvei Petrovich Bronstein Edit this on Wikidata
Plant Elena Chukovskaia Edit this on Wikidata

Awdures o Rwsia a'r Undeb Sofietaidd oedd Lydia Chukovskaya (Rwseg: Лидия Корнеевна Чуковская; 11 Mawrth 1907 - 7 Chwefror 1996) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur ac awdur plant, bardd, rhyddieithwr, golygydd a bywgraffydd. Mae ei gwaith llenyddol yn bersonol iawn ac yn adlewyrchu cost enbyd totalitariaeth Sofietaidd; aberthodd y rhan fwyaf o'i hoes yn amddiffyn anghydffurfwyr fel Aleksandr Solzhenitsyn ac Andrei Sakharov.

Fe'i ganed yn Helsinki, Ffindir ar 11 Mawrth 1907 a oedd yr adeg honno yn Ymerodraeth Rwsia. Roedd yn ferch i'r awdur plant enwog Korney Chukovsky. Derbyniodd Wobr Andrei Sakharov i Awduron am eu Dewrder Dinesig. Bu farw yn Moscfa ac fe'i claddwyd ym Mynwent Peredelkino.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei magu yn St Petersburg, sef prifddinas yr ymerodraeth a gafodd ei rhwygo gan ryfel a chwyldro. Nododd Chukovsky fod ei ferch, pan oedd yn fawr ddim. yn hoffi trafod problemau am gyfiawnder cymdeithasol. Ond angerdd pennaf Lydia oedd llenyddiaeth, yn enwedig barddoniaeth. Ymwelodd prif lenorion y genedl â'i chartrefi: Alexander Blok, Nikolay Gumilyov ac Akhmatova.[1]

Chwip y Bolsieficiaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Matvei Bronstein, gŵr Lydia Chukovskaya

Aeth Chukovskaya i drafferth gydag awdurdodau'r Bolsieficiaid pan oedd yn ifanc iawn, pan ddefnyddiodd un o'i ffrindiau deipiadur tad Lydia Chukovskaya i argraffu taflen wrth-Bolsiefic. Cafodd ei halltudio i ddinas Saratov am gyfnod byr. Ond, ar ôl iddi ddychwelyd o'i halltudiaeth, dychwelodd i fyd llenyddol Leningrad, gan ymuno â'r cyhoeddwr 'Detgiz' yn 1927 fel golygydd llyfrau plant.

Roedd ei gwaith llenyddol cyntaf yn stori fer o'r enw Leningrad-Odessa, a gyhoeddwyd tua'r adeg hon, o dan y ffugenw "A. Uglov". Syrthiodd Chukovskaya mewn cariad â ffisegydd ifanc o darddiad Iddewig, Matvei Bronstein, a phriododd y ddau yn fuan.

Ar ddiwedd y 1930au, roedd 'Terfysg Fawr' Joseph Stalin yn amgáu'r tir. Daeth Detgiz, cyflogwr Chukovskaya, dan ymosodiad am fod yn rhy bourgeois, a chafodd nifer o'i awduron eu harestio a'u dienyddio. Daeth Matvei Bronstein hefyd yn un o lawer o ddioddefwyr Stalin. Cafodd ei arestio yn 1937 ar gyhuddiad ffug ac, yn anhysbys i'w wraig Lydia, cafodd ei roi ar brawf a'i ddienyddio ym mis Chwefror 1938. Byddai Chukovskaya hefyd wedi'i arestio, pe na bai i ffwrdd o Leningrad ar y pryd. [2][3][4]

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Sofia Petrovna.

Rhai gweithiau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Armstrong, Judith (2 Ionawr 2019). "Hidden women of history: Lydia Chukovskaya, editor, writer, heroic friend". The Conversation (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Ionawr 2019.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119261469; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/75kmjnxr3qbdfvm; LIBRIS; dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018; dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 95164668, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 28 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119261469; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119261469; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.