Luigi Galleani
Luigi Galleani | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1861 Vercelli |
Bu farw | 4 Tachwedd 1931 o trawiad ar y galon Caprigliola |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, cyfreithiwr |
Mudiad | insurrectionary anarchism, mutual aid |
Anarchydd o'r Eidal oedd Luigi Galleani (12 Awst 1861 – 4 Tachwedd 1931) oedd yn byw yn yr Unol Daleithiau o 1901 i 1919 ac yno yn siarad o blaid propaganda'r weithred a defnyddio trais i ddymchwel y llywodraeth.
Ganwyd yn ninas Vercelli yn rhanbarth Piemonte, yr Eidal. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Torino, ond oherwydd ei syniadau anarchaidd fe wnaeth ffoi'r wlad ym 1880 cyn iddo ennill ei radd. Treuliodd pymtheg mlynedd yn Ffrainc, a chyfnod byr yn y Swistir cyn iddo gael ei ddanfon yn ôl i'r Eidal. Cafodd ei arestio a'i garcharu ar ynys Pantelleria ym 1895, ac yno fe briododd a chafodd pedwar plentyn. Llwyddodd i ddianc o'r ynys i'r Aifft ym 1900, ac oddi yno i Loegr a'r Unol Daleithiau. Ymsefydlodd yn New Jersey a golygodd y cylchgrawn La Questione Sociale. Cafodd ei gyhuddo ym 1903 o annog terfysg yn ystod streic, ac fe wnaeth ffoi i Ganada. Y flwyddyn wedyn, dychwelodd dros y ffin i Vermont a sefydlodd y cylchlythyr Cronaca Sovversiva.[1]
Cafodd ei ddal ym 1906 a'i roi ar brawf, ond ei ryddhau gan nad oedd y rheithgor yn cytuno ar y farn. Symudod i Lynn, Massachusetts ym 1912.[2] Ysgrifennodd lyfr ar wneud bomiau deinameit, ac anogodd ei ddilynwyr i wrthryfela'n erbyn yr awdurdodau drwy ddulliau treisgar. Cychwynnodd gyfres o ymosodiadau yn ardal Boston yn y flwyddyn 1916, er na chafodd llawer o bobl eu lladd. Ar noson 2 Mehefin 1919, cafodd sawl dinas ar draws y wlad ei thargedu gan fomiau'r anarchwyr. Ymatebodd yr awdurdodau yn llym: alltudiwyd Galleani yn ôl i'r Eidal, a chafodd mewnfudwyr radicalaidd eraill eu harestio yn ystod Cyrchoedd Palmer.
Bu farw yn 70 oed o drawiad ar y galon.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Biography: Luigi Galleani, Anarchy Archives. Adalwyd ar 26 Awst 2017.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Chronology of Luigi Galleani, Anarchy Archives. Adalwyd ar 26 Awst 2017.
- Anarchiaeth yn yr Unol Daleithiau
- Anarchwyr o'r Eidal
- Anffyddwyr o'r Eidal
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Torino
- Pobl y 19eg ganrif o'r Eidal
- Genedigaethau 1861
- Golygyddion o'r Eidal
- Y wasg Eidaleg yn yr Unol Daleithiau
- Llenorion gwleidyddol o'r Eidal
- Marwolaethau 1931
- Pobl o Piemonte
- Pobl fu farw o drawiad ar y galon
- Terfysgaeth yn yr Unol Daleithiau
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o'r Eidal
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Eidaleg o'r Eidal