Lucie Pinson
| Lucie Pinson | |
|---|---|
| Ganwyd | 1985 Naoned |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ymgyrchydd |
| Swydd | sefydlydd, cyfarwyddwr |
| Cyflogwr |
|
| Mudiad | fossil-fuel divestment, amgylcheddaeth |
| Gwobr/au | Gwobr Amgylchedd Goldman |
Mae Lucie Pinson (ganwyd 1985) yn amgylcheddwr o Lydaw, ac yn sylfaenydd a chyfarwyddwr yr NGO Adernnill Cyllid, ac yn un o 6 enillydd Gwobr Amgylcheddol Goldman 2020, y wobr bwysicaf i weithredwyr ac ymgyrchwyr amgylcheddol. Arweiniodd ymgyrch a argyhoeddodd 16 o fanciau Ffrainc i beidio â buddsoddi mwyach mewn diwydiannau ynni carbon.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Lucie Pinson ym 1985 yn Nantes, Llydaw. Astudiodd y gwyddorau gwleidyddol a'r gwyddorau amgylcheddol. Yn 2013 ymunodd â Chyfeillion y Ddaear. Yn 2020 sefydlodd Reclaim Finance.[2]
Enillodd Pinson radd mewn hanes a gwyddoniaeth wleidyddol gan Brifysgol Rhodes yn Ne Affrica. Yn ystod y ddwy flynedd a dreuliodd yn y wlad hon, gwelodd a'i llygad ei hun ganlyniadau trychinebus amgylcheddol ac iechyd. Enillodd radd meistr dwbl mewn gwyddoniaeth wleidyddol a pholisi datblygu ym Mhrifysgol Sorbonne ym Mharis yn 2010 a 2011. Yn ystod ei hastudiaethau, cymerodd ran yn nhrefniadaeth protesyn t uwchgynadleddau G8 a G205.[3].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Garric, Audrey (30 Tachwedd 2020). "La militante anticharbon Lucie Pinson reçoit la plus haute distinction pour l'environnement". Le Monde (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 8 Ebrill 2021.
- ↑ Chassepot, Philippe (16 Chwefror 2021). "Lucie Pinson, la militante verte qui veut faire plier le banquier". Le Temps (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 8 April 2021.
- ↑ Le Prix Goldman pour l’environnement récompense le combat de la française Lucie Pinson pour une finance décarbonée ; GoodPlanet mag'; 2020-12-01; adalwyd 27 Ebrill 2021.