Neidio i'r cynnwys

Trops

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Losin sur)

Melysion bychain crynion yw trops[1] neu drops (ffurf unigol: dropsen).[2] Defnyddir hefyd fel gair cyffredinol am felysion, ond mewn dau bentref yn ne-orllewin Cymru yn unig y'i cofnodwyd: Cynwyl Elfed a Brechfa.[3]

Gwneir trops drwy ddiferu cymysgedd o siwgr berwi a chyflasynnau ar badell neu estyllen i galedu, gan roi iddynt eu siâp cron nodweddiadol. Gellir newid y siâp drwy fwydo'r cymysgedd cynnes trwy beiriant a elwir yn rholer trops, sy'n siapio a thorri'r cymysgedd yn drops unigol.[4]

Gellir hefyd gwneud trops o gymysgeddau teisenni a bisgedi, er enghraifft trops sbwnj.[4]

Bergamottes de Nancy, trops Ffrengig a flesir gyda bergamot.

Cynhwysir casgliad o ryseitiau cynnar am drops ffrwyth yn Le Parfait Confiturier (1667) gan y Ffrancwr François Pierre La Varenne. Yn hanesyddol ychwanegwyd suddion asidaidd megis lemwn neu bomgranad i siwgr berwi i greu trops. Effaith yr asid oedd cadw'r cymysgedd siwgr yn glaear ac yn galed pan oedd yn oeri, ac nid yn ailrisialu. Roedd ryseitiau eraill yn defnyddio cymysgedd o siwgr powdwr a suddion ffrwyth, gan roi melysfwyd oedd yn debyg i eisin. Defnyddiwyd cyflasynnau eraill gan gynnwys coffi a phersawrau megis rhosyn, fioled a bergamot. Ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19eg ganrif, ychwanegwyd mwy o asid i'r siwgr berwi, ar ffurf finegr neu asid tartarig (neu mewn un rysáit asid sylffwrig neu "oel fitriol"). Datblygodd y dull modern o wneud trops o hyn.[4]

Mathau

[golygu | golygu cod]

Trops ffrwyth

[golygu | golygu cod]

Mae trops ffrwyth yn lliwgar a chanddynt flas ffrwythau gwahanol. Daw'r blas o rin naturiol neu synthetig.[4]

Trops jeli

[golygu | golygu cod]
Trops jeli

Math o felysion jeli yw trops jeli neu drops gwm. Defnyddir gel megis gelatin neu bectin i greu'r ansawdd feddal, cnoadwy, a defnyddir startsh i'w siapio.[4]

Trops lemwn

[golygu | golygu cod]

Trops mintys

[golygu | golygu cod]

Trops pêr

[golygu | golygu cod]

Melysion traddodiadol yng Ngwledydd Prydain yw trops pêr. Maent yn hanner lliw coch ac yn hanner lliw melyn, o siâp gellygen, a gyda rhinflas gellygen jargonelle neu asetad pentyl synthetig.[4]

Trops siocled

[golygu | golygu cod]

Trops surion

[golygu | golygu cod]

Melysion bychain claear yw trops surion neu drops asid. Gwneir drwy ferwi siwgr i'r cam hollt galed ac ychwanegu asid tartarig i roi iddynt eu blas sur.[4]

Meddyginiaeth

[golygu | golygu cod]

Gwneir hefyd trops peswch gyda chynhwysion meddyginiaethol megis llwyd y cŵn, coedwyrdd, a gwylys. Ychwanegir paregorig i rai trops peswch: yn wreiddiol, cyfansoddyn opiwm camfforaidd oedd hwn, ond heddiw cyflasyn diniwed a ddefnyddir.[4]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1422 [sweet].
  2.  drop. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Mehefin 2015.
  3. Thomas, Beth a Thomas, Peter Wynn. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno'r Tafodieithoedd (Caerdydd, Gwasg Taf, 1989), t. 13.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 257.