Gwylys

Oddi ar Wicipedia
Gwylys
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Fabales
Teulu: Fabaceae
Is-deulu: Faboideae
Llwyth: Galegeae
Genws: Glycyrrhiza
Rhywogaeth: G. glabra
Enw deuenwol
Glycyrrhiza glabra
L.[1]
Cyfystyron

Perlysieuyn parhaol o deulu'r pys yw gwylys (Glycyrrhiza glabra). Mae'n frodorol i'r Dwyrain Canol a De Ddwyrain Ewrop, ger arfordir Môr y Canoldir. Tyfir i dynnu'r sudd melys a elwir yn licris o'i wraidd.

Mae'r gwylys yn tyfu dros 0.9 m (3 troedfedd), ac uwchben y ddaear mae ganddo goesynnau hirion a dail adeiniog sy'n cynnwys 9 i 17 o ddeilios, a blodau gleision sy'n cynhyrchu codennau sy'n cynnwys 3 neu 4 hedyn. Mae gwreiddiau'r planhigyn yn rhwydwaith dwfn o risomau.[2]

Tyfir y planhigyn am 3 i 5 flynedd cyn ei gynaeafu. Caiff y gwreiddiau a'r rhisomau eu glanhau, eu gwasgu'n fwydion, a'u berwi ac yna fe grynhoir y sudd licris drwy broses anweddu. Tyfir gwylys heddiw yn Rwsia,[2] De Ewrop a'r Unol Daleithiau.[3] Fe'i dyfir ym Mhrydain ers yr 16g pan gafodd ei dyfu gan fynachod Dominicaidd yn Pontefract, Swydd Efrog.[2]

Mae ganddo flas chwerwfelys cryf sy'n debyg i anis a ddaw o'r sylwedd glysyrhisin,[3] ac arogl melys. Yn y gegin, defnyddir gwylys i wneud melysion megis licris cymysg a theisenni Pontefract, i flasu Guinness, sambwca a chyrfau a gwirodlynnau eraill a diodydd ysgafn. Yn y fferyllfa mae ei arogl cryf a'i flas neilltuol o fudd wrth gelu blasau cas y moddion, er enghraifft mewn surop peswch a losin gwddf.[2] Defnyddir hefyd i drin wlseri peptig a chlefyd Addison.[3]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Gelwir gwylys hefyd yn licris, licoris neu licorys, benthycair o'r enw Saesneg liquorice,[4] a ddaw o'r Roeg: glyks/glukus (melys) a rhiza (gwreiddyn).[2] Gair arall arno yw perwraidd, cyfuniad o "pêr" a "gwraidd".[5] Bathwyd y gair "gwylys" gan William Owen Pughe ym 1800 mewn ymgais i drosi liquorice gan iddo gamdybio taw liquor (Saesneg am wirod) oedd yr elfen gyntaf yn y gair hwnna. Cyfansoddair o "gwy" (dŵr) a "llys" (llysiau) yw bathiad Pughe.[6] Heddiw yn gyffredinol defnyddir "licris" i gyfeirio at yr ystyr goginiol a "gwylys" i gyfeirio at yr ystyr fotanegol.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Glycyrrhiza glabra information from NPGS/GRIN". www.ars-grin.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-20. Cyrchwyd 6 March 2008.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Morris, Sallie. The New Guide to Spices (Llundain, Lorenz, 1999), t. 53.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) licorice (herb). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  4.  licris. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  5.  perwraidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  6.  gwylys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  7. Geiriadur yr Academi, [liquorice].
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: