Licris

Oddi ar Wicipedia
Olwynion licris.
Licris cymysg a wneir gan Bassett's.
Teisenni Pontefract.

Melysion sydd â blas o wreiddiau'r planhigyn gwylys yw licris. Mae ganddo flas melys a chwerw sy'n debyg i anis.[1] Cafodd ei ddefnyddio fel meddyginiaeth a bwyd dogn i filwyr am filoedd o flynyddoedd, cyn i'r cemegydd o Sais George Dunhill ychwanegu siwgr a chynhwysion eraill at wraidd y gwylys ym 1760.[2]

Cymysgir y rhin gwraidd gwylys â siwgr, dŵr, gelatin, a blawd i greu past hydrin o liw du neu frown, sy'n blasu'n wydn a chnoadwy. Caiff ei siapio'n bibellau neu stribedi hirion a elwir yn "lasys", a ellir eu rholio i wneud olwynion licris. Cyfunir gyda phast siwgr meddal i wneud licris cymysg, sy'n felysion traddodiadol poblogaidd yng Ngwledydd Prydain. Mae'r rhain mewn haenau o licris du a phast lliwgar sy'n debyg i farsipán, neu'n dalpiau o licris wedi eu rholio mewn vermicelli siwgr.[3] Tyfir gwylys ym Mhrydain yn gyntaf gan fynachod Dominicaidd yn Pontefract, Swydd Efrog, yn y 16g, ac yn y dref honno yn draddodiadol cynhyrchir teisenni Pontefract.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) licorice (herb). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mehefin 2015.
  2. (Saesneg) Liquorice - the black gold of the liquorice root. Haribo. Adalwyd ar 9 Mehefin 2015.
  3. Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 457.
  4. Morris, Sallie. The New Guide to Spices (Llundain, Lorenz, 1999), t. 53.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: