Lorenzo Valla

Oddi ar Wicipedia
Lorenzo Valla
Ganwyd1407 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw1 Awst 1457 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Pavia Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, ieithegydd, academydd, athronydd, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Pavia Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDe falso credita et ementita Constantini donatione declamatio, Confutatio in Morandum Edit this on Wikidata
MudiadDyneiddiaeth Edit this on Wikidata

Athronydd Eidalaidd ac offeiriad Catholig, rhethregwr a beirniad yn yr iaith Ladin, a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Lorenzo Valla (Lladin: Laurentius Vallensis; 14071 Awst 1457). Mae'n nodedig am ei feirniadaeth destunol o ysgolheictod hanesyddol a chrefyddol Ewrop ac am ei gwerylon ffyrnig ag ysgolheigion eraill yr oes.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Lorenzo Valla yn Rhufain, Taleithiau'r Babaeth, ym 1407. Derbyniodd ei addysg yno ac aeth ar grwydr drwy'r Eidal gan fireinio'i feistrolaeth ar yr ieithoedd Groeg a Lladin a llenyddiaeth glasurol.

Ym 1431 fe'i penodwyd yn athro rhethreg ym Mhrifysgol Pavia. Yno, ymosododd ar draddodiadau canoloesol y gyfadran gyfreitheg, a daeth i'r amlwg fel lladmerydd o ramadeg ac ieitheg yn y clasuron. O ganlyniad i'r ddadl, gorfodwyd iddo adael Pavia ym 1433. Er gwaethaf, enillodd enw am ei lenydda a'i rethreg bolemig a chafodd ei groesawu i lysoedd gan frenhinoedd, dugiaid a changellorion ar draws yr Eidal, a threuliodd y cyfnod 1435–48 yn Napoli yn bennaf.[1]

Ym 1440 cyhoeddwyd y traethodyn De falso credita et ementita Constantini donatione declamatio ganddo, gwaith sydd yn profi natur ffug Donawd Cystennin, y ddogfen a hawliwyd gan y Babaeth i gyfiawnhau ei hawdurdod gwleidyddol ac eglwysig yn y byd hwn. Defnyddiodd Valla ddadansoddiadau ieithegol i ddatguddio croesddywediadau mewnol a chamamseriadau'r ddogfen. Ysgrifennodd Valla De falso i gefnogi achos ei noddwr, Alfonso V, brenin Aragón, yn ei ymgyrch yn erbyn y Babaeth yn ne'r Eidal.

O ganlyniad i De falso, a'i ysgrifeniadau damcaniaethol ar bwnc crefydd, cyhuddwyd Valla o baganiaeth neu heresi gan chwilyswyr y pab, a bu'n rhaid iddo ddibynnu ar gymorth y Brenin Alfonso nes iddo ailgymodi â'r Eglwys ym 1448. Dychwelodd i'w ddinas enedigol a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r Pab Niclas V. Yn Rhufain, bu Valla yn addysgu, yn cyfieithu awduron Groeg i Ladin, ac yn lladmerydd dros ddyneiddiaeth y Dadeni o fewn yr Eglwys. Defnyddiodd ei ddulliau ieithegol i astudio ac anodi y Fwlgat, a chafodd ddylanwad mawr ar ddyneiddiaeth Gristnogol wedi i Desiderius Erasmus, ym 1505, ganfod llawysgrif o'r Annotationes a'i ddefnyddio i gynhyrchu cyfieithiad Lladin o'r Testament Newydd.

Bu farw Lorenzo Valla yn Rhufain ym 1457, tua 50 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Lorenzo Valla" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 2 Awst 2020.
  2. (Saesneg) Lorenzo Valla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Awst 2020.