Locomotif Dosbarth 'Manor' GWR

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
7808 Cookham Manor Chesterfield.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol dosbarth o locomotifau Edit this on Wikidata
Math locomotif cario tanwydd Edit this on Wikidata
Daeth i ben Rhagfyr 1965 Edit this on Wikidata
Daeth yn weithredol Ionawr 1938 Edit this on Wikidata
Lled y cledrau 1435 mm Edit this on Wikidata
Gweithredwr Rheilffordd y Great Western, Western Region of British Railways Edit this on Wikidata
Gwneuthurwr Swindon Works Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Dosbarth 'Manor' GWR (neu Ddosbarth 7800) yn fath o locomotif 4-6-0 a grewyd ar gyfer Rheilffordd y Great Western. Roedd y locomotifau'n ysgafnach, ac wedi'u cynllunio gan Charles Collett[1] gan ddatblygu Dosbarth GWR ‘Grange’, a oedd a boeler ysgafnach, i gael argaeledd ehangach dros rwydwaith y rheilffordd[2]. Adeiladwyd 20 ohonynt rhwng 1938 a 1939, ac fe'u henwyd ar ôl maenordai yn ardaloedd lein y Great Western. Adeiladwyd 10 arall ym 1950 gan BR.[3] Ar ran pŵer, dosbarth 5MT oedd y ‘Manor’,dosbarth D yn nhermae’r GWR.[4] Aeth y locomotifau cyntaf i Wolverhampton, Bryste, Caerloyw, Amwythig, Westbury a Neyland. Ar ôl 1938, defnyddiwyd locomotifau ar brif lein Rheilffordd y Cambrian. Dyfnyddiwyd y dosbarth hefyd yn Nyfnaint a Chernyw.[5]

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae 9 ohonynt mewn cadwraeth.

Locomotifau 'Manor'
Locomotif Dosbarth Lleoliad Statws Delwedd Nodau
7802 Bradley Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Rheilffordd Dyffryn Hafren Gweithredol
7808 Cookham Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Canolfan reilffordd Didcot Disgwyl am atgyweiriad
7812 Erlestoke Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Rheilffordd Dyffryn Hafren Gweithredol
Kidderminster02LB.jpg
7819 Hinton Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Rheilffordd Dyffryn Hafren Atgyweiriwyd
7820 Dinmore Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Rheilffordd Swydd Gaerloyw a Swydd Warwick Gweithredol Defnyddio tender o locomotif 3850
7821 Ditcheat Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Marchnad cynllunwyr Swindon Atgyweiriwyd Ar fenthyg o Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf
7822 Foxcote Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Rheilffordd Llangollen Gweithredol
FoxcoteManor02LB.jpg
7827 Lydham Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Rheilffordd Stêm Dartmouth Gweithredol
7828 Odney Manor Dosbarth 7800 GWR "Manor" Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf Gweithredol
BishopsLydeard02LB.jpg
Wedi cael yr enw Norton Manor yn ystod gwarchodaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]