Loch Maree
Gwedd
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wester Ross |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 28.6 km² |
Uwch y môr | 6 metr |
Cyfesurynnau | 57.6897°N 5.4575°W |
Dalgylch | 440.11 cilometr sgwâr |
Hyd | 20 cilometr |
Llyn yn Ucheldiroedd yr Alban yw Loch Maree. Fe'i lleolir yn Ross a Cromarty yn yr Ucheldiroedd Gogledd-orllewinol. Gyda hyd o 20 km a lled o hyd at 4 km, Loch Maree yw'r llyn dŵr croyw pedwerydd fwyaf yn yr Alban o ran ei faint. Ei arwynebedd yw 28.6 km² (11 milltir sgwar).
Mae ganddo bump ynys goediog fawr a thros 25 o rai llai. Ar Ynys Maree ceir adfeilion capel, y credir iddo fod yn gell feudwy o'r 7g a sefydlwyd gan Sant Maol Rubha. Mae'r ynys honno'n cynnwys coedwigoedd derw a chelyn hynafol; enghreifftiau prin a gwerthfawr o goedwigoedd cynhenid yr Ucheldiroedd. Fel yn achos Loch Ness, mae gan Loch Maree ei anghenfil ei hun a elwir yn muc-sheilch. Mae'r loch yn lle da i ddal brithyllod.