Llŷr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llyr)

Cymeriad y ceir sôn amdano ym Mhedair Cainc y Mabinogi ac yn y Trioedd Cymreig yw Llŷr. Credir ei fod yn wreiddiol yn cyfateb i Lir ym mytholeg Iwerddon, ac yn dduw'r môr: ystyr y gair Cymraeg Canol llŷr yw 'môr, eigion'.[1]

Yn y Pedair Cainc, nid yw'n ymddangos fel cymeriad yn y stori, ond ef yw tad Brân, Branwen a Manawydan; Penarddun yw eu mam. Yn y Trioedd, rhestrir Llŷr (fel Llŷr Llediaith) yn un o 'Dri Goruchel Garcharor Ynys Prydain' am iddo gael ei ddal yn garcharor gan Euroswydd. Yn chwedl Branwen ferch Llŷr yn y Pedair Cainc, dywedir mai Euroswydd yw tad dau fab ieuengaf Penarddun, Nisien ac Efnisien, felly dichon fod yr hanes yn y Trioedd yn deillio o chwedl goll am ymryson rhwng Euroswydd a Llŷr am gariad Penarddun.[2]

Credir mai Llŷr oedd sail y cymeriad Leir yn hanesion Sieffre o Fynwy, a thrwyddo ef y cymeriad Lear yn nrama King Lear gan William Shakespeare.

Llinach[golygu | golygu cod]

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Beli mab Mynogan
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Llŷr
 
 
 
 
 
Penarddun
 
 
 
 
Euroswydd
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Brân(♂)
 
Manawydan(♂)
 
Rhiannon
 
Pwyll
 
Brânwen(♀)
 
Matholwch
 
Nisien(♂)
 
 
Efnisien(♂)
 
 
 


Nodyn: Blwch heb ffin: teulu drwy briodas, nid gwaed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol II, tud. 2275.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), Triawd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]