Euroswydd

Oddi ar Wicipedia

Euroswydd yw tad Efnysien a Nisien ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Cyfeirir ato yn un o Drioedd Ynys Prydain yn ogystal. Ychydig a wyddys fel arall am y traddodiadau amdano.

Ymddengys fod enw Euroswydd yn gyfuniad o'r gair eur yn yr ystyr "ysblennydd, ardderchog, rhagorol" a'r gair oswydd "gelyn", gan roi'r ystyr "Gelyn Ysblennydd" (?).

Chwedl Branwen ferch Llŷr yn y Pedair Cainc yw ein prif ffynhonnell am Euroswydd. Yno mae'n un o ddau ŵr Penarddun (Llŷr Llediaith yw'r llall) a thad, trwy Benarddun, i'r gefeilliaid Efnysien a Nisien. Nid oes ganddo le fel cymeriad yn y chwedl.

Yn y Trioedd cyfeirir ato yn carcharu Llŷr Llediaith, sy'n un o Dri Goruchel Garcharor Ynys Brydain (gyda Mabon fab Modron ac Arthur). Ni cheir esboniad am y traddodiad, ond rhaid bod chwedl amdano yn hysbys pan gyfansoddwyd y triawd. Gan fod Euroswydd a Llŷr yn cael eu cyfrif fel "gwŷr" Penarddun efallai fod chwedl am yr elyniaeth rhyngddynt yn bodoli ar un adeg.

Ceisiodd Alfred Nutt uniaethu Euroswydd â'r cadfridog Rhufeinig Ostorius Scapula, gwrthwynebydd Caratacus (Caradog), ond mae cryn ansicrwydd am hynny.

Ceir cyfeiriad posibl ato yn ogystal mewn cerdd gan y bardd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (fl. 1326-82).

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]