Llyn y Garn
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
22 acre ![]() |
Gerllaw |
Afon Prysor ![]() |
Cyfesurynnau |
52.923018°N 3.84367°W ![]() |
![]() | |
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn y Garn. Saif i'r dwyrain o bentref Trawsfynydd a chaer Rufeinig Tomen y Mur ac i'r gogledd o'r briffordd A4212, 1,448 troedfedd uwch lefel y môr a chydag arwynebedd o 22 acer.
Mae copa Y Garn (474 m) fymryn i'r gorllewin o'r llyn, ac Afon Prysor ychydig i'r de, i lawr llethr serth. Gerllaw mae castell mwnt a beili Castell Prysor, ac ychydig i'r gogledd mae Llyn Conglog Mawr.
Ceir pysgota am ddraenogiaid a phenhwyad yn y llyn. Gerllaw'r llyn mae hen gloddfa aur Moel y Croesau.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)