Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Am y llyn o'r un enw ger Blaenau Ffestiniog, gweler Llyn y Dywarchen, Migneint.
Llyn y Dywarchen

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn y Dywarchen, ychydig i'r gogledd-orllewin o bentref Rhyd Ddu ac i'r de-orllewin o Lyn Cwellyn. Mae ganddo arwynebedd o 40 acer

Ceir nifer o straeon am y llyn yma. Nododd Gerallt Gymro ar ei daith trwy Gymru yn 1188 fod ynys yn nofio ar y llyn, ac yn medru symud yma ac acw. Yn ddiweddarach, cadarnhawyd hyn gan nifer o deithwyr, yn cynnwys Thomas Pennant yn 1786 a Ward yn 1931. Nid yw yno bellach, ond mae'n debyg mai rhan o'r lan wedi torri ymaith ydoedd. Ni ddylid cymysgu'r ynys symudol hon a'r ynys barhaol sydd ynghanol y llyn.

Stori arall, a adroddir am nifer o lynnoedd eraill hefyd, oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo a haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.

Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd Dyffryn Nantlle, ond ers i argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i Lyn y Gadair ac Afon Gwyrfai.

Drws y Coed
Llyn y Dywarchen gyda hen dŷ Drws-y-Coed ar ei draed (fe'i chwalwyd i neud maes parcio bysgotwyr[1] O'r ty yma aeth teulu William Griffith i'r Iwerddon. Ar yr ochor dde olion hen stabal sydd yna. Cyfrannwyd y llun a’r sylw gan Elinor Roberts (ond pwy a’i paentiodd tybed? Ai’r enw P. Quint sydd yng nghornel dde isaf y llun?). Mae yna ddau adeilad yma; ai o un o rhain yr aeth teulu'r Griffith i'r Iwerddon - fe aeth un o'r disgynyddion i fod yn sylfaenydd Sinn Fein, sef Arthur Griffith? .

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Geraint Roberts, The lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0
  • Bwletin Llên Natur rhifyn 59 (tudalen 3)[1]