Llyn Rhos-ddu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Rhos-ddu

Llyn yn ne-orllewin Ynys Môn yw Llyn Rhos-ddu, weithiau Llyn Rhos Ddu neu Llyn Rhosddu. Saif ger Cwningar Niwbwrch, i'r de o bentref Niwbwrch, ychydig oddi ar y briffordd A4080, ac mae'n rhan o warchodfa natur Cwningar Niwbwrch. Nid oes afon o unrhyw faint yn llifo i mewn iddo nag allan ohono; crewyd y llyn trwy i ddŵr gronni tu ôl i'r twyni tywod.

Ceir cuddfan adar wrth lan y llyn, ac mae'r maes parcio ar gyfer y warchodfa gerllaw.

CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato