Llyn Rakshastal
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Ymreolaethol Tibet |
Gwlad | [[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Tibet|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Tibet]] [[Nodyn:Alias gwlad Tibet]] |
Arwynebedd | 250 km² |
Uwch y môr | 4,575 metr |
Cyfesurynnau | 30.6833°N 81.2333°E |
Hyd | 28.6 cilometr |
Llyn yn Tibet, tua 2,000 km i'r gorllewin o'r brifddinas Lhasa, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Lyn Manasarovar ac wrth droed mynydd sanctaidd Kailash, i'r de, yw Llyn Rakshastal (Tibeteg: La'nga Co neu Lag-ngar-mtsho; Hindi a Sansgrit: Rakshastal; Tsieineeg: 拉昂错, Lā'áng Cuò). Mae Afon Sutlej yn tarddu yno ac yn llifo allan o ogledd-orllewin Rakshastal.
Gorwedd y llyn, sydd ag arwynebedd o 70 km² (27 milltir sgwâr), ar uchder o 4,752m (15,590 troedfedd). Mae sianel naturiol yn ei gysylltu â Llyn Manasarovar
Ym mytholeg Hindŵaeth, crëwyd y llyn gan Ravana, brenin y diafoliaid (rakshasa) er mwyn ennill pwerau arbennig trwy addoli'r Arglwydd Shiva, sydd a'i lys ar fynydd Kailash gerllaw. Saif y llyn mewn cyferbyniaeth â llyn sanctaidd Manasarovar, a grëwyd gan y duw Brahma. Er nad yw'n lle sanctaidd ynddo ei hun, am ei fod wedi ei greu gan frenin y rakshasas, mae'n gyrchfan pererindod i Hindŵaid sy'n cyrchu Kailasha.