Llyn Rakshastal

Oddi ar Wicipedia
Llyn Rakshastal
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhanbarth Ymreolaethol Tibet Edit this on Wikidata
Gwlad[[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Tibet|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Tibet]] [[Nodyn:Alias gwlad Tibet]]
Arwynebedd250 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,575 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.6833°N 81.2333°E Edit this on Wikidata
Hyd28.6 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn Tibet, tua 2,000 km i'r gorllewin o'r brifddinas Lhasa, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Lyn Manasarovar ac wrth droed mynydd sanctaidd Kailash, i'r de, yw Llyn Rakshastal (Tibeteg: La'nga Co neu Lag-ngar-mtsho; Hindi a Sansgrit: Rakshastal; Tsieineeg: 拉昂错, Lā'áng Cuò). Mae Afon Sutlej yn tarddu yno ac yn llifo allan o ogledd-orllewin Rakshastal.

Gorwedd y llyn, sydd ag arwynebedd o 70 km² (27 milltir sgwâr), ar uchder o 4,752m (15,590 troedfedd). Mae sianel naturiol yn ei gysylltu â Llyn Manasarovar

Ym mytholeg Hindŵaeth, crëwyd y llyn gan Ravana, brenin y diafoliaid (rakshasa) er mwyn ennill pwerau arbennig trwy addoli'r Arglwydd Shiva, sydd a'i lys ar fynydd Kailash gerllaw. Saif y llyn mewn cyferbyniaeth â llyn sanctaidd Manasarovar, a grëwyd gan y duw Brahma. Er nad yw'n lle sanctaidd ynddo ei hun, am ei fod wedi ei greu gan frenin y rakshasas, mae'n gyrchfan pererindod i Hindŵaid sy'n cyrchu Kailasha.

Llun lloeren o lynnoedd Rakshastal (ar y chwith) a Manasarovar gyda mynydd Kailash