Llyn Llywenan
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.3056°N 4.4806°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Mae Llyn Llywenan yn llyn yng nghanol Ynys Môn, rhyw filltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Bodedern ac ychydig i'r de-orllewin o Lyn Alaw. Gydag arwynebedd o 39.1 ha, Llyn Llywenan yw'r llyn naturiol mwyaf ar yr ynys. Mae’n perthyn i ystad Presaddfed.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Nid oes unrhyw afon o faint yn llifo i mewn nag allan o'r llyn. Ceir pysgota brithyll yno, ac mae amrywiaeth o adar dŵr yn nythu. Mae'r llyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ger ochr ddeheuol y llyn mae siambr gladdu Neolithig Presaddfed. Mae Maes Criced Bodedern ym Mhresaddfed.
