Llyn Cynwch

Oddi ar Wicipedia
Llyn Cynwch
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBrithdir a Llanfachreth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.76991°N 3.872702°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7376520786 Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map
Llyn Cynwch ar ôl cawod o law, Tachwedd.

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Cynwch. Saif i'r gogledd o dref Dolgellau ac i'r dwyrain o Afon Mawddach: NGR SH 73765 20786. Mae gan y llyn, sy'n rhan o ystad Nannau, arwynebedd o 26 acer a dyfnder o 31 troedfedd yn y man dyfnaf; mae 729 troedfedd uwch lefel y môr.

Adeiladwyd argae yn 1968 i godi lefel y llyn i gyflenwi dŵr i Dolgellau. Ceir pysgota am frithyll yma.

Pysgod a physgota[golygu | golygu cod]

  • Cofnododd C.E. Munro Edwards yn ei ddyddiadur[1] iddo ymweld yn eitha aml â Llyn Cynwch i bysgota.
Brithyll
Ym misoedd Awst rhwng 1872 ac 1882 ar 9 ymweliad â’r llyn, fe ddaliodd 183 o frithyll ond chwyddwyd y cyfrif hwn gan gofnod 8 Awst 1872 gan iddo ddal 150 y diwrnod hwnnw. Mae’r dyddiadur yn cynnwys data tebyg o fisoedd eraill
Draenogyn dŵr
Prif nod ei ymweliadau fodd bynnag oedd pysgota am y draenogyn dŵr croyw Perca fluviatilis, yr unig le iddo gofnodi’r pysgodyn bras hwn yn ei ardal. Cofnododd [2] fanylion am 45 o ymweliadau â’r llyn rhwng 1872 ac 1895, pob un namyn 3 ym misoedd Mehefin (11), Gorffennaf (17) ac Awst (13). Ym mis Awst y daliodd y niferoedd mwyaf, sef cyfartaledd pob ymweliad o 10.1 draenogyn (uchafswm o 37 ar 6 Awst 1878). Diddorol fyddai cymharu bagiau pysgotwyr heddiw gyda’r ffigyrau hyn.
Llysywen
Yr unig rywogaeth arall y cyfeiriodd Edwards ato yn y llyn oedd llysywod. Soniodd ym mis Mehefin 1876 am ”a remarkably large eel” a thro arall “only hooked a large eel”.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Sporting diary of CE Munro Edwards, Dolserau, Dolgellau yn Archifdy Cyngor Gwynedd yn Nolgellau ac a drawsgrifwyd i Dywyddiadur Llên Natur [1]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato