Llyn Crych y Waun

Oddi ar Wicipedia
Llyn Crych-y-waen
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMigneint-Arenig-Dduallt Edit this on Wikidata
SirLlanuwchllyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,352 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8482°N 3.763°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Crych y Waun). Fe'i lleolir tua 4.5 milltir i'r gorllewin o bentref Llanuwchllyn ym Meirionnydd.

Saif y llyn bychan hwn 1,352 troedfedd[1] i fyny yn ardal gadwriaethol Migneint-Arenig-Dduallt, tua 1.5 milltir i'r gogledd o'r Dduallt. Mae'r tir o gwmpas y llyn yn gorsiog iawn ac mae sawl ffrwd yn ymuno ychydig yn is i lawr i'r llyn i ffurfio Afon Mawddach.[2]

Cofnodir yr enw fel "(Llyn) Krych-ar-y-Waun" mewn rhai hen lyfrau. Ar un adeg roedd y llyn yn llawn o frithyll ond erbyn yr 20g roedd ei faint wedi lleihau ac erbyn heddiw nid yw ond yn llyn bychan iawn yng nghanol cors eang gyda dim ond ychydig o bysgod ynddo.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.