Llwyn mwyar y Berwyn

Oddi ar Wicipedia
Rubus chamaemorus
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Rubus
Rhywogaeth: R. chamaemorus
Enw deuenwol
Rubus chamaemorus
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol sy'n frodorol o Hemisffer y Gogledd yw Llwyn mwyar y Berwyn sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Rosaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Rubus chamaemorus a'r enw Saesneg yw Cloudberry.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Mwyaren y Berwyn, Afal y Berwyn, Miaren Gor, Miaren y Mynydd, Mwyar Doewan, Mwyar Gleision, Mwyar y Berwyn, Mwyaren Doewan.

Mae'r teulu Rosaceae yn perthyn i'r genws Rosa (rhosyn) fel ag y mae'r cotoneaster a'r eirinen. Prif nodwedd y teulu yw ei ffrwythau amrywiol a phwysig i economi gwledydd.[2] Ceir 5 sepal, 5 petal ac mae'r briger wedi'u gosod mewn sbeiral sy'n ffurfio llestr tebyg i gwpan o'r enw hypanthiwm.

Ffisioleg a ffenoleg[golygu | golygu cod]

Mae mwyar y Berwyn Rubus chamaemorus, gyda’i ffrwythau suddlon eurfelyn, yn fynychydd gweundiroedd uchel a gorgorsydd mawnaidd. Mae hadau’r planhigyn hwn angen o leiaf 5 mis o dymheredd rhwng 4 °C a 5 °C cyn y caiff ei ffrwythlonni. Nid yw’r angen ffisiolegol hon am dymheredd gaeaf isel yn anghyffredin o gwbl ac mae’n ymddangos hefyd mewn trychfilod ac amffibiaid.[3]

Llên Gwerin[golygu | golygu cod]

Yn rhifyn 16 Gorffennaf 1873 o Faner ac Amserau Cymru gwelir y cyfeiriad difyr hwn at Fwyar y Berwyn:

Dywedir fod yn y 5ed ganrif sant o'r enw Donwar yn preswylio yn Llanrhaeadr ym Mochnant... y traddodiad ymhlith hen fugeiliaid Berwyn ydoedd mai'r hyn a dderbyniai Dewi Sant bob blwyddyn am ei wasanaeth yn Llanrhaeadr oedd chwart o fwyar Berwyn, a hefyd ei bod yn hen arferiad a deddf yn y plwyf fod y sawl a ddygai chwart o'r mwyar hyn yn aeddfed i'r parson [sic] ar fore dydd gŵyl Donwar a gaed maddeuant o'r hyn a oedd yn ddyledus fel taliadau eglwys am flwyddyn. Enw gwyddonol y llysieuyn yw 'Rubus Chamoemorus’, ac mewn rhai blynyddoedd bydd ei ffrwyth yn dra phrin. Dywedir i dad Syr Watkyn gynnyg [sic] pum swllt amryw droion am bob mwyaren aeddfed a ddygid iddo. Ni wyddid paham yr oedd yn rhoddi'r fath bris arnynt.”[4]
CYWYDD BERWYN gan Cynddelw
"Mwyar Doefon" mawr dyfiad;
Mwyara a llusa'n llon
Mewn byd wyf man bu Doefon
Ar garn y bre ger ein bron,
Yn foreu'i caid ar frig gwyn
Mor bur a mwyar Berwyn[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. B.C. Bennett (undated). Economic Botany: Twenty-Five Economically Important Plant Families. [http: //www.eolss.net/Sample-Chapters/C09/E6-118-03.pdf Encyclopedia of Life Support Systems (EOLSS) e-book]
  3. Beebee, T. (2018) Climate Change and Wildlife, ‘’Bloomsbury Wildlife’’
  4. Viv Williams, Blaenau Ffestiniog (ym Mwletin Llên Natur rhif 31, 2010
  5. Robin Gwyndaf (cys. pers)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: