Llwyfwyfyn canibalaidd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cosmia trapezina
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Cosmia
Rhywogaeth: C. trapezina
Enw deuenwol
Cosmia trapezina
(Linnaeus, 10fed Rhifyn o Systema Naturae, 1758)

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw llwyfwyfyn canibalaidd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy llwyfwyfynod canibalaidd; yr enw Saesneg yw Dun-bar, a'r enw gwyddonol yw Cosmia trapezina.[1][2] Mae'n eitha cyffredin drwy Ewrop.

Lled yr adenydd ydy 28–38 mm a gall y lliw (a'r maint) newid cryn dipyn. Mae'n hedfan rhwng Gorffennaf a Medi ac yn cael ei ddenu gan olau a siwgwr.

Bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r siani flewog yn wyrdd gyda llinellau melyn a smotiau gwynion. Ei phrif fwyd ydy coed a llysiau ond mae hefyd yn gloddesta ar gnawd siani flewogs eraill, ac weithiau ar siani flewogs ei math ei hun - y llwyfwyfyn canibalaidd; a dyna sut y cafodd ei henw. Mae'n trulio'r gaeaf fel ŵy.

Cyffredinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r llwyfwyfyn canibalaidd yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.