Llumanlong

Oddi ar Wicipedia
Llumanlong
HMS Victory, llumanlong Prif Arglwydd y Môr, swyddog uchaf y Llynges Frenhinol.
Enghraifft o'r canlynolmath o long Edit this on Wikidata
Mathnaval vessel, llong Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Term morwrol yw llumanlong,[1] banerlong[2] neu fflaglong[2] sy'n disgrifio'r llong a ddefnyddir gan brif swyddog (er enghraifft, llyngesydd) sy'n bennaeth ar grŵp o longau'r llynges, fel arfer fflagswyddog gyda'r hawl draddodiadol i chwifio lluman arbennig i ddynodi ei radd. Mewn ystyr lac, fe'i cyfeirir at y brif long mewn fflyd neu lynges, fel arfer yr un gyntaf, fwyaf, gyflymaf, lawnarfocaf, neu enwocaf.

Yn yr ystyr lyngesol bob dydd, disgrifiad dros dro ydy'r enw ar gyfer pa bynnag llong sy'n dwyn y prif swyddog ac yn chwifio'i faner ar y pryd hwnnw. Fodd bynnag, bu angen cyfleusterau ychwanegol ar lyngesyddion erioed, gan gynnwys ystafell gyfarfod ddigon mawr i'r holl gapteiniaid ymgynnull ynddi, a lle i staff y llyngesydd wneud cynlluniau a llunio gorchmynion. Yn hanesyddol, dim ond y llongau mwyaf a allai ddarparu ar gyfer gofynion o'r fath.

Yn ystod Oes yr Hwylio ac Oes y Darganfod, defnyddiwyd y term gan fflydoedd masnachol yn ogystal â lluoedd morwrol, gan nad oedd y wahaniaeth rhwng llynges filwrol genedlaethol a masnachlongau'r un wlad bob amser yn eglur. Er enghraifft bu'r Sea Venture, llumanlong Cwmni Virginia, dan gapteiniaeth yr Is-lyngesydd Christopher Newport, o'r Llynges Frenhinol, ond hefyd yn dwyn Syr George Somers, prif swyddog Llynges Fasnach Lloegr.

Yn oes llongau'r gadres, un o'r radd gyntaf—hynny yw, llongau mwyaf y llynges—oedd y llumanlong nodweddiadol, a chanddi dri bwrdd, a'r bwrdd ôl yn cynnwys ystafelloedd y llyngesydd a swyddfeydd ei staff. Esiampl ydy HMS Victory, llumanlong y Llyngesydd Horatio Nelson ym Mrwydr Trafalgar ym 1805, sydd o hyd yng ngwasanaeth y Llynges Frenhinol, ac heddiw yn llumanlong seremonïol Prif Arglwydd y Môr. Gallai llongau nad oedd o'r radd gyntaf hefyd fod yn llumanlongau, er enghraifft yr USS Constitution, ffrigad o'r bedwaredd radd a fu'n llumanlong ar gyfer rhannau o Lynges yr Unol Daleithiau yn nechrau'r 19g.

Yn ystod yr 20g, daeth llongau yn ddigon mawr fel y gallai gwiblongau a mathau eraill ddarparu ar gyfer is-gapten a'i staff. Mae rhai llongau mawr yn cynnwys pont luman ar wahân er defnydd y llyngesydd a'i staff, tra bo'r capten yn rheoli'r llong o'r brif bont lywio. Prif swyddogaeth y llumanlong yw cyd-drefnu'r fflyd, ac o'r herwydd nid ydyw o reidrwydd yn llawnarfocach na llawnarfogedicach na'r llongau eraill. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939–45), bu llyngesyddion yn aml yn ffafrio'r llong gyflymaf yn hytrach na'r llong fwyaf.

Dylunir llumanlongau modern yn bennaf ar gyfer awdurdod a rheolaeth filwrol yn hytrach nag ymladd, a fe'u gelwir felly yn llongau rheoli.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  llumanlong. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Hydref 2023.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, "flagship".