Cwmni Virginia
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cwmni cyd-stoc, trading company ![]() |
Daeth i ben | 24 Mai 1624 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 10 Ebrill 1606 ![]() |
Sylfaenydd | Iago ![]() |
Cynnyrch | cash crop, lumber, Tybaco ![]() |
Pencadlys | Llundain ![]() |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
![]() |
Cwmni masnachu oedd Cwmni Virginia (Saesneg: Virginia Company) a sefydlwyd trwy siarter frenhinol gan Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) yn Ebrill 1606 gyda'r nod o drefedigaethu arfordir dwyreiniol Gogledd America. Yn gywir, dwy fenter ydoedd a sefydlwyd dan yr un telerau i weithredu mewn parthau gwahanol: Cwmni Virginia Llundain rhwng lledredau 34° and 41° G, a Chwmni Virginia Plymouth rhwng lledredau 38° a 45° G. Rhennid y parth rhwng lledredau 38° a 41° G, felly, gan y ddau gwmni. Fel y mae'r enwau yn awgrymu, cyfranddalwyr Llundeinig oedd gan yr un cwmni a chyfranddalwyr o Plymouth gan y llall.