Llong U

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
U 995 Laboe.JPG
Data cyffredinol
Math llong tanfor ymosod Edit this on Wikidata
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Datblygiad Rhyfela
HWB
Arfau a thechnoleg
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Mae'r term Llong U yn dod o'r gair Almaeneg U-Boot [ˈuːboːt], sef talfyriad o Unterseeboot. Tra bod y term Almaeneg yn cyfeirio at unrhyw long danfor, mae'r un Saesneg (a'r Gymraeg) yn cyfeirio'n benodol at longau tanfor milwrol a weithredir gan yr Almaen, yn enwedig yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Datblygodd yr Almaen eu fflyd o longau tanfor mewn ymateb i'r ras arfau gyda'r Deyrnas Unedig, a oedd yn meddu ar fflyd o longau rhyfel pwerus gan gynnwys y Dreadnought. Ar adegau roeddent yn arfau effeithlon yn erbyn llongau rhyfel llynges y gelyn ond fe'u defnyddiwyd yn fwyaf effeithiol mewn rôl rhyfela economaidd a gorfodi gwarchae llynges yn erbyn llongau'r gelyn. Prif dargedau'r ymgyrchoedd llongau U yn y ddau ryfel byd oedd y confois morgludiant masnachol a oedd yn dod â chyflenwadau o Ganada a rhannau eraill o'r Ymerodraeth Brydeinig, ac o'r Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig ac (yn ystod yr Ail Ryfel Byd) i'r Undeb Sofietaidd a thiriogaethau'r Cynghreiriaid ym Môr y Canoldir. Fe wnaeth llongau tanfor yr Almaen hefyd ddinistrio llongau masnach o Brasil yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan orfodi Brasil i ddatgan rhyfel yn erbyn yr Almaen a'r Eidal ar 22 Awst 1942. Roedd llongau tanfor Llynges Awstria-Hwngari hefyd yn cael eu galw'n llongau U.

Ras arfau[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Ras arfau

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif Prydain oedd pŵer llyngesol mwyaf y byd. Yn ystod y blynyddoedd cyn i’r rhyfel mawr ddechrau yn 1914, roedd Prydain a’r Almaen wedi bod yn rhan o ras arfau. Daeth y rhyfel hwn i gynrychioli math newydd o ryfela ar y môr a fyddai’n rhoi lle blaenllaw i genhedlaeth newydd o longau rhyfel a llongau tanfor. Roedd y Dreadnought yn enghraifft berffaith o’r llongau newydd hyn a daethant yn symbol o rym llynges Prydain ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Dyma’r llongau rhyfel mwyaf effeithiol oedd yn bodoli ar y pryd. Roedd y datblygiad a'r defnydd o longau U yn un o ymatebion yr Almaen i'r datblygiadau hyn.[1]

Y rhyfel ar y môr[golygu | golygu cod y dudalen]

Paentiad Almaenig yn dangos y Lusitania yn cael ei tharo gan dorpido

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf daeth rhyfel ar y môr yn brawf o ddyfeisgarwch, yn enwedig gan y byddai’n cael ei ymladd o dan y môr am y tro cyntaf. Roedd uwch reolwyr Prydain yn sylweddoli bod rheoli Môr y Gogledd yn allweddol. Yn ogystal ag wynebu llynges yr Almaen, byddai angen i’r llynges rwystro cyflenwadau i’r Almaen er mwyn gwanhau’r wlad. Aeth y Fflyd Fawr ati i batrolio Môr y Gogledd a gosod ffrwydradau i amharu ar longau masnach yr Almaen.

Daeth y bygythiad mwyaf i lynges Prydain ar yr wyneb y dŵr gan longau tanfor yr Almaen, y Llongau U. Roedd hi’n anodd dod o hyd i Longau U gan mai’r perisgôp oedd y dull mwyaf effeithiol o ddod o hyd i longau’r gelyn ar adeg pan oedd technoleg sonar yn newydd iawn.[2]

Ar 5 Medi 1914 yr HMS Pathfinder oedd y llong gyntaf i’w suddo gan long danfor a oedd yn defnyddio torpido wedi ei baratoi ganddi hi ei hun. Ym mis Chwefror 1915, mewn ymgais i dalu’r pwyth yn ôl am geisio atal llongau masnach yr Almaen, cafodd comanderiaid llongau tanfor yr Almaen orchymyn i suddo llongau masnach Prydeinig (a llongau niwtral, hyd yn oed) yn ddirybudd os oeddent o'r farn eu bod yn cario cyflenwadau. Drwy wneud hynny, roedd yr Almaen hefyd yn ceisio llwgu Prydain drwy danio torpidos o longau tanfor i suddo llongau bwyd. Suddwyd llong deithio o'r enw'r Lusitania (Mai 1915) a chollodd 1,198 o bobl eu bywydau o blith y 1,959 oedd yn hwylio arni. Roedd hyn yn cynnwys 128 o Americanwyr, mewn ymosodiad a roddodd sioc fawr i’r Cynghreiriaid. Yn 1917 bu’n rhaid i David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain, gyflwyno dogni ar rai nwyddau yn 1917 ac 1918 oherwydd bod ymosodiadau gan longau tanfor yr Almaen ar longau oedd yn cario bwyd i Brydain wedi cynyddu.

Daeth y rhyfel ar y môr yn rhyfel nerfau ac roedd llawer yn gobeithio am fuddugoliaeth fawr fel yr un a gafwyd ym mrwydr Trafalgar. Brwydr Jytland (31 Mai 1916) oedd yr unig enghraifft o frwydr lawn, uniongyrchol rhwng llynges Prydain a'r Almaen ar y môr. Roedd hon yn frwydr ar Fôr y Gogledd wrth ymyl Denmarc rhwng llynges yr Almaen a’r llynges Brydeinig. Cafodd miloedd o ddynion eu lladd wrth i dorpidos suddo eu llongau, ac roedd colledion uchel ar y ddwy ochr. Roedd canlyniad y frwydr yn amhendant er bod gan Brydain 151 o longau a dim ond 99 oedd gan yr Almaen. Collodd Prydain 3 cadgriwser, 3 chriwser, 8 llong ddistryw ynghyd â 6,100 o ddynion. Collodd yr Almaenwyr 1 long ryfel, 1 cadgriwser, 4 criwser a 5 llong ddistryw ynghyd â 2,550 o ddynion. Er hynny, gwelwyd y frwydr fel buddugoliaeth i Brydain oherwydd iddi gadw rheolaeth dros Fôr y Gogledd.[3]

Parhaodd llynges Prydain i rwystro masnach a bu’n rhaid i’r wlad ddibynnu ar ei llongau cargo arferol i fewnforio bwyd a deunyddiau crai yn ogystal â chludo milwyr ac arfau. Ar ôl y rhyfel cyflwynodd y Brenin Siôr V deitl y Llynges Fasnachol i gydnabod cyfraniad y llongwyr masnachol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llongau U yn aml yn agos at arfordir Cymru a gwyddys bod 17 o longau masnach wedi cael eu suddo oddi ar arfordir Cymru.[4]

Coffáu Llongau Tanfor Almaenig ym moroedd Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2017 cyhoeddodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru brosiect i fapio a chofnodi'r llongau tanfor o'r Rhyfel Byd Cyntaf a suddwyd neu llongddrylliwyd ar hyd arfordir a moroedd Cymru.[5] Noda'r prosiect bod "... y rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru yn agwedd ar dreftadaeth ddiwylliannol Cymru sydd wedi’i hanghofio neu’n anhysbys i raddau helaeth."

Cofnodir tua 170 o golledion llongau ac awyrennau sy'n ymwneud â rhyfel ar y môr yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae gan bob safle'r potensial i fod yn ganolbwynt ar gyfer coffáu, ond dewiswyd 14 i ddechrau i'w harchwilio o dan y dŵr er mwyn galluogi adrodd stori'r Rhyfel Mawr o safbwyntiau'r Cynghreiriaid a'r Almaen.[6]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC.
  2. "Arfau a technoleg". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-16.
  3. "Prif Frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-16.
  4. "Commemorating the Forgotten U-boat War around the Welsh Coast 1914-18". Nautical Archaeology Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-16.
  5. https://cbhc.gov.uk/coffaur-rhyfel-anghofiedig-yn-erbyn-llongau-tanfor-yr-almaen-ar-hyd-arfordir-cymru-1914-18/
  6. https://cbhc.gov.uk/royal-commission-gains-heritage-lottery-fund-approval-for-the-development-of-the-forgotten-u-boat-war-around-the-welsh-coast-project-2/