Llinos y Mynydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llinos y Mynydd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Carduelis
Rhywogaeth: C. flavirostris
Enw deuenwol
Carduelis flavirostris
(Linnaeus, 1758)

Aderyn yn perthyn i'r teulu Fringillidae yw Llinos y Mynydd (Carduelis flavirostris). Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop a chanolbarth Asia, fel rheol ar y twndra neu ar dir uchel, di-goed.[1]

O ran maint, mae'n debyg i'r Llinos, ond mae'r plu yn fwy brown, heb y lliw coch a welir yn y Llinos. Mae'r pig yn felyn yn y gaeaf ac yn llwyd yn yr haf.[1]

Wyau Carduelis flavirostris

Yng Nghymru, mae nifer fychan o'r rhywogaeth yma yn nythu yn Eryri. Ceir niferoedd ychydig yn fwy yn y gaeaf, ger glannau'r môr yn bennaf.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Snow, D. W. & C. M. Perrins (1998) Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 2, Oxford University Press, Rhydychen.
  2. Green, Jonathan (2002) Birds in Wales: 1992-2000, Cymdeithas Adaryddol Cymru.
Bird template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.