Llinell y Gororau

Oddi ar Wicipedia
Trên yn cyrraedd Wrecsam (Cyffredinol)
Borderlands line
Gorsaf reilffordd Pen-y-ffordd

Mae Llinell y Gororau yn wasanaeth reilffordd rhwng Gorsaf reilffordd Wrecsam Canolog a Bidston, o dan reolaeth Trafnidiaeth Cymru. Mae cysylltiad yn Bidston gyda’r Llinell Cilgwri, sy’n arwain at Lerpwl, Penbedw a West Kirby. Mae cysylltiad hefyd yn Shotton gyda threnau i Gaer a Chaergybi, a chysylltiad hefyd yng Ngorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol gyda Chaer ac Amwythig.

Bwriedir cyflwyno trenau batri trydanol a diesel yn ystod 2020.[1] Mae rheilffyrdd eraill Cilgwri yn defnyddio trenau trydanol. Bydd y trenau newydd yn dod o Rheilffordd Danddaearol Llundain, ailenwir Dosbarth 230 Rheilffordd Brydeinig.[2][3] Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu gwella eu 13 o orsafoedd ar y llinell.[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd rhan deheuol y rheilffordd gan Reilffordd Wrecsam, yr Wyddgrug a Chei Connah a’r rhan gogleddol gan Reilffordd Gogledd Cymru a Lerpwl. Daeth y cwbl yn rhan o Reilffordd y Great Central ym 1905.[5]

Caewyd 2 orsaf yn y 50au; Gorsaf reilffordd Storeton ym 1951 a Gorsaf reilffordd Burton Point ym 1955.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.railtech.com/rolling-stock/2020/01/27/vivarail-certifies-uks-first-battery-powered-train/ Gwefan railtech.com
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-07. Cyrchwyd 2020-09-07.
  3. http://www.wrexham.com/news/refurbed-london-underground-trains-for-wrexham-to-bidston-service-keolis-uk-to-move-hq-to-wales-150386.html
  4. Gwefan railway-news.com
  5. 5.0 5.1 Gwefan uktransport.fandom.com

Dolen allanol[golygu | golygu cod]