Llechylched
Gwedd
| Math | pentref |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.260326°N 4.491639°W |
![]() | |
Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llechylched. Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin yr ynys ac mae'n cyfateb yn fras i diriogaeth cymuned Bryngwran. Mae'n rhan o Esgobaeth Bangor.
Yn yr Oesoedd Canol roedd Llechylched yn rhan o gwmwd Llifon, cantref Aberffraw. Prif anneddfa'r plwyf yw pentref Bryngwran. Adeiladwyd Eglwys y Drindod yno yn 1841, i gymeryd lle'r hen eglwys, Eglwys Sant Ulched (neu Ylched). Gellir gweld gweddillion yr hen eglwys rhyw filltir i'r de-orllewin o'r pentref. Ni wyddom unrhyw beth o gwbl am Sant Ulched/Ylched. Mae'r enw Llechylched ('llech' + Ylched) yn awgrymu maen cysylltiedig ag ef.[1]
Cofnodir bod 405 o bobl yn byw yn y plwyf yn 1831.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Llechylched[dolen farw] ar wefan Yr Eglwys yng Nghymru.
