Lily Tomlin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lily Tomlin
Lily Tomlin 2014.jpg
Ganwyd (1939-09-01) 1 Medi 1939 (78 oed)
Detroit, Michigan, Yr Unol Daleithiau
Enwau eraill Mary Jean Tomlin
Yn enwog am The West Wing, Grace and Frankie
Galwedigaeth Actores, comediwraig, ysgrifenwraig, a chynhyrchwraig

Mae Mary Jean "Lily" Tomlin (ganed 1 Medi 1939)[1] yn actores, comediwraig, ysgrifenwraig a chynhyrchwraig Americanaidd. Dechreuodd ei gyrfa yn 1960au fel comediwraig ar ei sefyll a daeth yn berfformwraig ar y rhaglen deledu Rowan & Martin's Laugh-In.

Mae wedi ymddangos ar y teledu, mewn recordiadau comedi, ar Broadway ac hefyd mewn ffilmiau. Serennodd mewn ffilmiau megis Nashville, 9 to 5, All of Me, The Beverley Hillbillies, Orange County ac I Heart Huckabees. Ar y teledu, mae'n fwyaf adnabyddus am ei rolau fel aelod o gast Laugh-In rhwng 1970-73, Ms. Frizzle yn The Magic School Bus, Kay Carter-Shepley yn Murphy Brown, Deborah Fiderer yn The West Wing, Lillie Mae MacKenzie yn Malibu Country a Frankie Bergstein yn Grace and Frankie.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Monitor". Entertainment Weekly (1275): p. 25. 6 Medi, 2013.