Lillian Gish

Oddi ar Wicipedia
Lillian Gish
GanwydLillian Diana Gish Edit this on Wikidata
14 Hydref 1893 Edit this on Wikidata
Springfield, Ohio Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1993 Edit this on Wikidata
o methiant y galon Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylSpringfield, Ohio Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethactor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, hunangofiannydd, sgriptiwr, actor llwyfan, actor teledu, ymgyrchydd heddwch, actor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluyr Almaen Edit this on Wikidata
TadJames Leigh Gish Edit this on Wikidata
MamMary Gish Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur des Arts et des Lettres‎, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am yr Actores Orau, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Gwobr Crystal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lilliangish.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures Americanaidd oedd Lillian Diana Gish (14 Hydref 1893 - 27 Chwefror 1993) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, hunangofiannydd, sgriptiwr ac actor llwyfan.

Fe'i ganed yn Springfield, Ohio a bu farw yn Ninas Efrog Newydd o fethiant y galon ac afiechyd y system cardiofasgwlaidd. Fe'i claddwyd yn Church of the Heavenly Rest. [1][2][3][4][5][6]

Roedd ei gyrfa actio mewn ffilmiau'n rhychwantu 75 mlynedd, o 1912, mewn ffilmiau-tawel, byrion, hyd at 1987. Gelwid Gish yn First Lady of American Cinema, ac mae'n cael ei chofio am dechnegau perfformio arloesol.[7][8]

Roedd Gish yn seren-ffilm poblogaidd o 1912 i'r 1920au, ac yn gysylltiedig â ffilmiau'r cyfarwyddwr D. W. Griffith, gan gynnwys ei rôl arweiniol yn y ffilm gros uchaf o'r cyfnod tawel, The Birth of a Nation (Griffiths; 1915). Ar ddechrau'r cyfnod ffilm-sain, dychwelodd i'r llwyfan, ac anaml iawn yr ymddangosodd mewn ffilm. ond gwnaeth hynny yn Duel in the Sun a oedd yn ffilm eitha dadleuol (1946) a'r ffilm gyffrous The Night of the Hunter (1955).

Gwnaeth hefyd lawer o waith teledu o ddechrau'r 1950au i'r 1980au a diweddodd ei gyrfa'n chwarae gyferbyn â Bette Davis yn y ffilm The Whales of August (1987).

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganed Gish yn Springfield, Ohio, y plentyn cyntaf i Mary Robinson McConnell (1876–1948) a James Leigh Gish (1873 [6] –1912) (a oedd o dras Lutheraidd yr Almaen). Roedd gan Lillian chwaer iau, Dorothy, a ddaeth hefyd yn seren ffilm boblogaidd.[9][10][11][12]

Roedd tad Gish yn alcoholig a gadawodd y teulu. Dechreuodd mam Gish actio i'w cefnogi. Symudodd y teulu i East St. Louis, Illinois, lle buont yn byw am sawl blwyddyn gyda modryb ac ewythr Lillian, Henry a Rose McConnell. Agorodd eu mam Majestic Candy Kitchen, a helpodd y merched i werthu popcorn a da-da i fynychwyr yr hen Theatr Majestic, a leolwyd y drws nesaf i'r siop. Mynychodd y merched Ysgol Sant Henry, lle buont yn actio mewn dramâu ysgol.

Gish yn Broken Blossoms (1919)

Pan losgodd y theatr wrth ymyl y siop candi, symudodd y teulu i Efrog Newydd, lle daeth y merched yn ffrindiau da gyda chymydog drws nesaf, Gladys Smith. Roedd Gladys yn blentyn-actores a wnaeth ychydig o waith i'r cyfarwyddwr D. W. Griffith ac yn ddiweddarach cymerodd yr enw llwyfan Mary Pickford. Pan oedd Lillian a Dorothy yn ddigon hen, fe ymunon nhw â'r theatr, yn aml yn teithio ar wahân mewn gwahanol gynyrchiadau. Buont hefyd yn cymryd swyddi modelu, gyda Lillian yn modelu i'r artist Victor Maurel, yn gyfnewid am wersi llais.

Gladys Smith a gyflwynodd y chwiorydd i'r cynhyrchydd D. W. Griffith. Roedd Gish yn 19 oed ar y pryd ond dywedodd ei bod yn 16.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd am rai blynyddoedd. [13][14][15]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Commandeur des Arts et des Lettres‎, Gwobr Anrhydeddus yr Academi (1970), Anrhydedd y Kennedy Center (1982), Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI (1984), Gwobr Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am yr Actores Orau (1987), Oriel yr Anfarwolion Ohio (1980), Gwobr Crystal (1979), seren ar Rodfa Enwogion Hollywood[16] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12167620t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12167620t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Lillian Gish". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lillian Gish". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lillian Dianna Gish". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lillian Gish". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lillian Diana Gish". "Lillian Gish". "Lillian Gish".
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12167620t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.aveleyman.com/ActorCredit.aspx?ActorID=6602. http://www.aveleyman.com/OnThisDay.aspx?OTDMonth=10&OTDDay=14&OTDYear=2008. "Lillian Gish". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lillian Gish". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lillian Dianna Gish". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lillian Gish". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lillian Diana Gish". "Lillian Gish". "Lillian Gish".
  5. Man geni: http://www.aveleyman.com/ActorCredit.aspx?ActorID=6602.
  6. Tad: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
  7. Lillian Gish - North American Theatre Online
  8. "American Film Institute". www.afi.com.
  9. Dorothy and Lillian Gish (1973) t. 12
  10. Birth year of James Gish. "Ancestry.com".
  11. "Lillian Gish Biography". Bioandlyrics.com. 27 Chwefror 1993. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2009. Cyrchwyd 4 Hydref 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. "Pennsylvania Births and Christenings, 1709-1950," database, FamilySearch (https://familysearch.org/ark:/61903/1:1:V2NJ-LPH : 11 Chwefror 2018), Jas. Leonidas Gish, 11 Rhagfyr 1873; Christening, citing ZION EVANGELICAL LUTHERAN CHURCH, HUMMELSTOWN, DAUPHIN, PENNSYLVANIA; FHL microfilm 845,111.
  13. Man gwaith: https://www.acmi.net.au/creators/82188.
  14. Galwedigaeth: http://www.listal.com/lillian-gish. http://www.moma.org/explore/publications/modern_women/blog/candid-thoughts-on-lillian-gish. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Ionawr 2024. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Ionawr 2024.
  15. Anrhydeddau: https://www.ohiohistory.org/research/archives-library/state-archives/ohio-womens-hall-of-fame/.
  16. https://www.ohiohistory.org/research/archives-library/state-archives/ohio-womens-hall-of-fame/.