Lili Boulanger
| Lili Boulanger | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | 21 Awst 1893 Paris |
| Bu farw | 15 Mawrth 1918 Mézy-sur-Seine |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfansoddwr |
| Arddull | cerddoriaeth glasurol |
| Mudiad | cerddoriaeth fynegiadol |
| Tad | Ernest Boulanger |
| Mam | Raïssa Boulanger |
| Gwobr/au | Prix de Rome |
Cyfansoddwraig o Ffrainc oedd Marie-Juliette Olga ("Lili") Boulanger (21 Awst 1893 – 15 Mawrth 1918). Roedd hi yn chwaer iau i'r cyfansoddwraig ac athrawes Nadia Boulanger (1887–1979).
Fe'i ganed ym Mharis i rieni oedd yn gerddorion. Daeth ei thalent am gerddoriaeth yn amlwg yn gynnar yn ei hoes. Cyn iddi fod yn bum mlwydd oed, aeth i wersi yn y Conservatoire de Paris gyda'i chwaer Nadia (10 oed). Mynychodd ddosbarthiadau ar theori cerddoriaeth ac organ gyda Louis Vierne. Roedd hi'n canu, ac yn chwarae piano, ffidil, cello a telyn. Roedd ei hathrawon yn cynnwys Marcel Tournier a Alphonse Hasselmans. Ym 1913 enillodd y Prix de Rome am gyfansoddiad; hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y wobr enwog hon.
Mae hi wedi dioddef afiechyd drwy gydol ei bywyd, ac fe'i bu farw o dwbercwlosis coluddyn yn 24 oed. Ymddengys bod yr ymwybyddiaeth o'i salwch difrifol wedi cynyddu ei chreadigrwydd. Ysgrifennodd lawer o gyfansoddiadau, ond roedd llawer o'r rhai hynny heb eu gorffen neu wedi eu colli.
