Leslie Nielsen

Oddi ar Wicipedia
Leslie Nielsen
GanwydLeslie William Nielsen Edit this on Wikidata
11 Chwefror 1926 Edit this on Wikidata
Regina Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 2010 Edit this on Wikidata
Fort Lauderdale Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Neighborhood Playhouse School of the Theatre
  • Victoria School of Performing and Visual Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, digrifwr, cynhyrchydd ffilm, actor llais Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt, comedi Edit this on Wikidata
PriodMonica Boyar Edit this on Wikidata
Gwobr/auSwyddog Urdd Canada, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, ACTRA Award Edit this on Wikidata
llofnod

Actor a digrifwr Canadaidd-Americanaidd oedd Leslie William Nielsen, OC (11 Chwefror 192628 Tachwedd 2010). Ymddangosodd mewn dros gant o ffilmiau gan gynnwys Forbidden Planet, The Poseidon Adventure, Airplane!, cyfres The Naked Gun, a Dracula: Dead and Loving It, a thros 1500 o raglenni teledu.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Nielsen yn Regina, Saskatchewan.[1] Roedd ei fam, Mabel Elizabeth (née Davies), yn mewnfudwr o Gymru a'i dad, Ingvard Eversen Nielsen (1900–1975), a anwyd yn Denmarc, yn gwnstabl gyda March-Heddlu Brenhinol Canada.[2][3][4] Roedd Nielsen yr ail o dri bachgen. Roedd yr hynaf, Erik Nielsen (1924–2008), yn Aelod hir-dymor o Senedd Canada, gweinidog cabinet a Dirprwy Prif Weinidog Canada rhwng 1984 a 1986.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ross, Bob (24 Mai 1996). "Worth the Rent" (Fee required). The Tampa Tribune. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  2. Simpson, Kieran (1980). Canadian Who's Who, Volume 15. University of Toronto Press. ISBN 0-8020-4579-0.
  3. Lumley, Elizabeth (2003). Canadian Who's Who 2003, Volume 38. University of Toronto Press. t. 1,103. ISBN 0-8020-8865-1.
  4. "Leslie Nielsen, the comic with the Danish roots: "Comedy is what endures"". Scandinavian Press. 4 (1). 31 Mawrth 1997. Nodyn:ProQuest.
  5. "Erik Nielsen dies at B.C. at 84". The Globe and Mail. Toronto. 5 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 December 2010.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner CanadaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ganadiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.