Neidio i'r cynnwys

Lady Bird (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Lady Bird
Cyfarwyddwyd ganGreta Gerwig
Cynhyrchwyd gan
Awdur (on)Greta Gerwig
Yn serennu
Cerddoriaeth ganJon Brion
SinematograffiSam Levy
Golygwyd ganNick Houy
Stiwdio
Dosbarthwyd gan
Rhyddhawyd gan
  • Medi 1, 2017 (2017-09-01) (Telluride)
  • Tachwedd 3, 2017 (2017-11-03) (Unol Daleithiau)
Hyd y ffilm (amser)93 munud
GwladUnol Daleithiau America
IaithSaesneg
Cyfalaf$10 miliwn[1]
Gwerthiant tocynnau$73.8 miliwn[2]

Ffilm gomedi-ddrama o 2017 yw Lady Bird a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Greta Gerwig ac yn serennu Saoirse Ronan, Laurie Metcalf, Tracy Letts, Lucas Hedges, Timothée Chalamet, Beanie Feldstein, Stephen McKinley Henderson, a Lois Smith. Mae wedi'i osod yn Sacramento, California, yn 2002, ac yn stori am ferch yn yr ysgol uwchradd (Ronan) a'i perthynas gythryblus gyda'i mam (Metcalf).

Dangoswyd Lady Bird am y tro cyntaf yng ngŵyl ffilmiau Telluride ar 1 Medi 2017, ac fe'i cyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau ar 3 Tachwedd 2017 gan A24. Cafodd y ffilm ei chanmol am ei sgript, ei gwaith cyfarwyddo, a pherfformiadau Ronan a Metcalf, ac mae'r ffilm wedi gwneud dros $73 miliwn ar gyllideb o $10 miliwn.

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]

Datblygiad

[golygu | golygu cod]

Treuliodd Greta flynyddoedd yn ysgrifennu'r ddrama. Ar un adeg roedd dros 350 o dudalennau, ac enw'r teitl gweithio oedd Mothers and Daughters.[3] Yn 2015, sicrhaodd Greta a'i thîm gyllid gan IAC Films, a gynhyrchodd y ffilm ar y chyd â Scott Rudin Productions.[4] Gweithiodd rheolwr Greta Evelyn O'Neill fel cynhyrchydd hefyd.

Er bod Lady Bird wedi'i ddisgrifio fel ei fod yn rhywfaint o hunangofiant,[5] dywedodd Greta nad oedd unrhyw beth yn y ffilm wedi digwydd yn llythrennol yn fy mywyd, ond mae ganddo graidd gwir sy'n atseinio â'r hyn mae hi'n ei wybod. Er mwyn paratoi'r cast a'r criw, rhoddodd Greta lyfrau blwyddyn ysgol iddynt, lluniau a dyddiaduron, ynghyd â darnau a ysgrifennwyd gan Joan Didion, ac fe'u cymerwyd nhw ar daith o amgylch ei thref gartref.[6][7] Dywedodd wrth Sam Levy, y cyfarwyddwr ffotograffiaeth, ei bod eisiau i'r ffilm "deimlo fel atgof"[8] Dyma ffilm gyntaf Greta fel cyfarwyddwr wrth ei hun; cyfarwyddodd Nights and Weekends gyda Joe Swanberg yn 2008.[9]

Dyfodol

[golygu | golygu cod]

Ym mis Chwefror 2018, mynegodd Greta Gerwig ddiddordeb mewn gwneud dilyniant ysbrydol i Lady Bird.[10]

Nodiadau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Galuppo, Mia (10 Rhagfyr 2017). "'Lady Bird': How Greta Gerwig Re-created 2002 to Tell Her Coming-of-Age Story". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2017. the budget (nearly $10 million in financing, thanks to Barry Diller's IAC)
  2. "Lady Bird (2017)". Box Office Mojo. Cyrchwyd 8 Ebrill 2018.
  3. Erbland, Kate (6 Hydref 2017). "Greta Gerwig Explains How Much of Her Charming Coming-of-Age Film 'Lady Bird' Was Inspired by Her Own Youth". Indiewire.com. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2017.
  4. "'Lady Bird': How Greta Gerwig Re-created 2002 to Tell Her Coming-of-Age Story". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 12 Ionawr 2018.
  5. Zuckerman, Esther (5 Tachwedd 2017). "How Greta Gerwig Turned the Personal 'Lady Bird' Into a Perfect Movie". Rolling Stone. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-09. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2017.
  6. Miller, Julie (3 Tachwedd 2017). "How Greta Gerwig's Lady Bird Came to "Look Like a Memory"". Vanity Fair. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2017.
  7. Desta, Yohana (4 Tachwedd 2017). "How Joan Didion Shaped the World of Greta Gerwig's Lady Bird". Vanity Fair. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2017.
  8. Raup, Jordan (1 Tachwedd 2017). "'Lady Bird' Cinematographer Sam Levy on Greta Gerwig, Frank Ocean, and Éric Rohmer". The Film Stage. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2017.
  9. Hans, Simran (18 Chwefror 2018). "Lady Bird review – a magical portrait of adolescence". The Guardian. Cyrchwyd 21 Chwefror 2018.
  10. Desta, Yohana. "Greta Gerwig Is Planning a Series of Spiritual Sequels to Lady Bird". HWD (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-30.